麻豆官网首页入口

Problemau inswleiddio i filoedd o dai

  • Cyhoeddwyd
Problemau inswleiddio

Yn 么l adroddiad a baratowyd ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae insiwleiddio waliau ceudod amrhiodol wedi achosi problemau mawr mewn miloedd o dai yng Nghymru.

Mae rhai pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol lle mae gwaith o'r fath wedi'i wneud yn cwyno am broblemau tamprwydd, llwydni ac anwedd d诺r.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae'r deunydd inswleiddio wedi'i dynnu o fwy na 280 o dai, a bydd angen gwaith trwsio ar tua 900 o dai yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gall y gwaith o dynnu'r deunydd inswleiddio gostio miloedd o bunnau - hyd at bum gwaith yn fwy na chost ei roi i mewn yn y lle cyntaf.

Gr诺p ymgyrchu

Mae manylion y broblem yn cael eu datgelu mewn adroddiad drafft sydd wedi'i baratoi gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu.

Cafodd gr诺p ymgyrchu o'r enw Cynghrair Dioddefwyr Inswleiddio Ceudodau weld yr adroddiad ar 么l gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth amdano.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Deunydd inswleiddio waliau ceudod

Mae Cyngor Abertawe a chymdeithas dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi dweud wrth y 麻豆官网首页入口 nad ydynt bellach yn inswleiddio eu tai fel hyn, a hynny am eu bod wedi cael cymaint o broblemau.

Ond mae Cyngor Caerdydd a chymdeithas dai Wales & West yn dweud nad ydynt wedi cael unrhyw broblemau.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams, yn delio 芒 nifer o g诺ynion ar ran ei etholwyr ac mae'n dweud bod tai wedi'u hinswleiddio pan oedd hynny'n hollol amhriodol.

"Mae'r stwff yma wedi'i roi mewn tai lle mae'r gwaith rendro wedi cracio" meddai, "felly mae'r deunydd inswleiddio yno fel pont i unrhyw dd诺r allu ffeindio'i ffordd i mewn i'r t欧".