Ymgyrch i ddiogelu dyfodol y 'Stiwt

Disgrifiad o'r llun, Arian glowyr yn 20au y ganrif ddiwethaf wnaeth helpu godi Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog

Mae theatr leol lwyddiannus sydd a'i gwreiddiau yn dyddio n么l i Streic Fawr 1926 wedi lansio ap锚l ariannu-torfol gwerth 拢50,000 er mwyn gwarchod dyfodol yr adeilad

Y flwyddyn nesaf bydd Y 'Stiwt yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed ac mae'n gobeithio bydd y buddsoddiad yn helpu'r ganolfan i ddatblygu a chreu hyd at 10 o swyddi newydd.

Cafodd y 'Stwit ei chodi diolch i ymdrechion ac arian glowyr lleol.

Rhwng 1924 a 1926 fe wnaeth Sefydliad Lles y Glowyr benderfynu bod ceiniog yn cael ei godi am bob tunnell o lo oedd yn cael ei godi mewn glofeydd lleol, ac fe wnaeth hynny godi bron i 拢18,000 ar gyfer codi'r adeilad.

Ar 么l hynny roedd cost cynnal a chadw'r 'Stwit yn dod drwy godi dwy geiniog yr wythnos o gyflogau'r glowyr.

Yn 么l y rhai tu 么l i'r cynllun diweddara byddai dwy geiniog yr wythnos yn 1926 gyfystyr a 拢3 yr wythnos yn 2015, neu 拢156 y flwyddyn.

Maen nhw'n galw ar 320 o bobl i gyfrannu'r 拢156 er mwyn sicrhau'r nod o 拢50,000.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ar 25 Medi gyda Noson Lawen sy'n cael ei threfnu gan fudiad Ffrindiau'r 'Stiwt.

Cyfnodau anodd

Dywedodd Sioned Bowen, aelod o Fwrdd Ffrindiau'r 'Stwit: "Mae hwn yn gyfnod pwysig a chyffrous i'r 'Stiwt gyda rhaglen o weithgareddau cyffrous o'n blaenau a chynlluniau arloesol i'r dyfodol.

"Rydym yn sicr fod yr ysbryd wnaeth helpu adeiladu'r adeilad a'i gadw i fynd drwy gyfnodau anodd yn parhau yn y Rhos a bydd yn help i ddatblygu'r ganolfan fel ei fod yn cwrdd ag anghenion a diddordebau newydd y gymuned."

Mae'r 'Stiwt wedi profi cyfnodau anodd a daeth yr adeilad yn agos i gael ei ddymchwel yn 1976.

Ond ar 么l ymdrechion lleol a grant o 拢2.1 miliwn gan Gronfa Etifeddiaeth y Loteri cafodd yr adeilad ei adfer a'i ailagor yn 1999

Cafodd cyfanswm o 拢4.3 miliwn ei wario wrth adfer y 'Stiwt a nawr mae'r adeilad yn paratoi ar gyfer dathliadau pen-blwydd yn 90 oed y flwyddyn nesa.

Mae'r trefnwyr wedi paratoi rhaglen blwyddyn o ddathliadau, gan ddechrau gyda chyngerdd yng nghwmni'r pianydd rhyngwladol o'r Rhos, Ll欧r Williams, ar 19 Fedi.

Ychwanegodd Sioned Bowen: "Roedd 1926 yn gyfnod o lymdra ond fe wnaeth pobl Rhos hi'n flaenoriaeth i adeiladu canolfan gymunedol.

"Yn 2016, 90 mlynedd yn ddiweddarach byddwn unwaith eto mewn cyfnod o lymdra. Mae ein cefnogwyr yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd. Ond rydym yn hyderus bydd y gymuned yn dangos yr un ymroddiad a'r sefydlwyr gwreiddiol yn 1926."