麻豆官网首页入口

Y bachgen sy'n methu gwenu

  • Cyhoeddwyd
Isaac Hughes sydd ag afiechyd prin Syndrom Moebius
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Isaac Hughes sydd ag afiechyd prin Syndrom Moebius

Mae delio gyda'r ffaith bod eich plentyn yn wael neu 芒 chyflwr meddygol yn ddigon anodd ond sut fyddech chi'n ymdopi petai'r cyflwr mor brin fel nad oes 'na arbenigwyr meddygol yn y maes? Dyma'n union ydi profiad teulu o'r Wyddgrug. Y cyflwr Syndrom Moebius sydd gan Isaac Hughes. Ei fam, Ceridwen Hughes sy'n trafod profiadau'r teulu gyda Cymru Fyw:

'Troi ar ben i lawr'

Roedd Isaac yn 8 mis oed pan gafodd o'r diagnosis. Mae Syndrom Moebius yn gyflwr sy'n achosi bod wyneb Isaac wedi ei barlysu. Dydi o ddim yn gallu gwenu a phrin iawn ydi'r mynegiant y mae'n gallu ei ddangos yn ei wyneb.

Cafodd bywyd ein teulu ei droi ar ei ben i lawr ar 么l clywed barn y meddygon. Er bod hwn yn gyfnod anodd iawn, y peth anoddaf yw gorfod egluro drosodd a throsodd i bobl beth ydi'r cyflwr.

Oherwydd bod cyflwr Isaac yn effeithio ar ei wyneb rydym ni yn aml yn teimlo bod yn rhaid i ni esbonio beth yw Syndrom Moebius a'r effaith y mae o yn ei gael arno. Dydyn ni ddim am i bobl ddod i'w casgliadau eu hunain am yr hyn y maen nhw'n meddwl sydd yn bod ar Isaac.

Ffynhonnell y llun, Ceridwen Barkley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Isaac gyda'i frawd Theo

Y bobl tu 么l i'r cyflwr

Mae lleferydd Isaac hefyd yn gyfyngedig ac er mai ychydig iawn o'i gymeriad y gallwch ei weld yn ei wyneb mae'n fachgen disglair ac mae ganddo ewyllys gref yn ogystal 芒 synnwyr doniolwch gwych. Dydi rhai pobl ddim yn gallu gweld tu hwnt i hynny a mae hyn yn achosi rhwystredigaeth i ni fel teulu.

Mi wnaeth dysgu am bobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg fy ysgogi i sefydlu mudiad nid-am-elw Mae yna bobl eraill ag anableddau sydd yn cael eu beirniadu yn gyson oherwydd y ffordd y maen nhw yn edrych.

Fel ffotograffydd mi es i ati i dynnu lluniau pobl sydd ag anableddau gyda'r nod o ddehongli'r cymeriad tu 么l i'r cyflwr. Rydw i wedi cynnal arddangosfeydd o'r lluniau gyda gwybodaeth am y bobl, er mwyn i eraill ddod i ddysgu mwy am yr unigolion a'u cyflyrau.

Mae pobl sydd ag anableddau, boed yn gyflwr prin a'i peidio, yn aml yn cael eu labelu. Mae rhai yn cymryd yn ganiataol gan eich bod yn edrych yn wahanol bod gennych chi hefyd anhawsterau dysgu. Neu os ydych chi'n ymddwyn yn wahanol mae rhai pobl yn troi eu cefnau yn hytrach na gwerthfawrogi bod pawb yn wahanol yn eu ffyrdd.

Cofleidio gwahaniaeth

Mae Same but Different wedi ei sefydlu fel menter gymunedol fel bod yr arian sydd yn cael ei godi yn mynd tuag at helpu i gofleidio gwahaniaeth a gweld y bobl tu 么l i'w cyflyrau. Rydym ni eisiau taflu goleuni ar bersonoliaethau pobl tra'n addysgu, heb bregethu, am y cyflyrau a sut y maen nhw yn gwneud i'r unigolion ymddangos yn wahanol.

Pan ddechreuodd Isaac mewn ysgol newydd, daeth un o'i ffrindiau ata' i a dweud, "mae Isaac yn edrych yn wahanol a fedr o ddim siarad yn debyg i ni ond 'dyn ni yn gwybod tu mewn ei fod o jyst yr un fath 芒 ni."

Fedrwch chi ddim gofyn am ymateb gwell na hynna!

Fel y soniais i, nifer fechan iawn sydd 芒 Syndrom Moebius ond os cyfunwch chi'r gwahanol fathau o afiechydon prin mae 'na amcangyfrif bod yna 175,000 o bobl yng Nghymru sy'n gorfod brwydro i gael eu gweld fel unigolion llawn cymeriad, y tu hwnt i'w anableddau.

Gallwch ddysgu mwy am Same but Different trwy anfon e-bost i Ceridwen - ceri@samebutdifferentcic.org.uk

Ffynhonnell y llun, samebutdifferentcic