Rhybudd am forloi Bae Ceredigion

Mae yna rybudd i ymwelwyr 芒'r arfordir yng Ngheredigion fod yn ymwybodol o'r peryglon o gyffwrdd 芒 morloi ifanc ar y traethau yr adeg yma o'r flwyddyn.

Weithiau mae mamau'n gadael morloi ifanc ar eu pennau eu hunain ar draethau wrth iddyn nhw fynd i chwilio am fwyd yn y m么r.

Mae'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn rhybuddio pobl y gall cyffwrdd 芒 morlo ifanc olygu y bydd y fam yn troi cefn arno.

Gall y fam hefyd fod yn beryglus wrth iddi amddiffyn ei babanod.

Cyngor yr ymddiriedolaeth yw y dylai pobl gadw eu pellter o'r morloi a chadw eu c诺n ar dennyn.

Ddydd Llun cafodd 10 morlo ifanc eu canfod ar y glannau rhwng Ceinewydd a Llangrannog.