Gwrthwynebiad i gau banc HSBC yn Harlech

Disgrifiad o'r llun, Mae HSBC wedi cadarnhau y bydd y gangen yn Harlech yn cau ar 4 Rhagfyr
  • Awdur, Llyr Edwards
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae gwrthwynebiad yn Harlech i fwriad gan fanc yr HSBC i gau'r gangen yno ddechrau Rhagfyr.

Yn 么l pobol leol bydden nhw'n colli'r twll yn y wal hefyd.

Mae trigolion yn galw ar y banc i drosglwyddo'r adeilad yn Harlech i'r gymuned leol fel bod modd cadw'r twll yn y wal yno a datblygu gwasanaethau eraill yn yr adeilad.

Mae llefarydd ar ran HSBC wedi cadarnhau y bydd y gangen yn Harlech yn cau ar 4 Rhagfyr, ond eu bod yn gweithio gyda chwsmeriaid i edrych ar yr opsiynau posibl.

Dywedodd Zoe Davies, sy'n gweithio yn y Bwtri Bach ger y banc, eu bod ar hyn o bryd yn gallu picio i'r banc i dalu arian i mewn ac i n么l newid, ond os bydd y banc yn cau yna byddai'n rhaid iddyn nhw deithio 10 milltir i allu gwneud hyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae Nansi Powell Williams wedi bod yn cadw siop sgidiau yn Harlech ers 1949

Mae Nansi Powell Williams, sydd wedi bod yn cadw siop sgidiau yn Harlech ers 1949, hefyd yn cwyno am y sefyllfa.

Dydi hi ddim yn derbyn cardiau credyd, felly ar hyn o bryd mae pobol yn gallu defnyddio'r twll yn y wal i gael arian parod i brynu sgidiau yn ei siop.

Ond dywedodd pe bai'r twll yn y wal yn mynd, mae'n si诺r o gael effaith ar y busnes.

Mae'r Cynghorydd Caerwyn Roberts, sy'n cynrychioli Harlech ar Gyngor Gwynedd, yn galw ar yr HSBC i drosglwyddo adeilad y banc i ofal y gymuned leol fel y bydd y gwasanaeth twll yn y wal yn gallu parhau, a byddai modd datblygu gwasanaethau eraill yn adeilad y banc.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cynghorydd Caerwyn Roberts yn galw i'r adeilad gael ei drosglwyddo i ofal y gymuned leol

Dywedodd llefarydd ar ran HSBC, oherwydd cynnydd yn y defnydd o fancio ar y we a dros y ffon, bod llai o ddefnydd o'r gangen yn Harlech ac oherwydd hynny eu bod wedi cymryd y penderfyniad anodd i gau.

Ychwanegodd eu bod yn cydweithio gyda chwsmeriaid i edrych ar yr opsiynau posibl, gan gynnwys tynnu neu roi arian i mewn i'w cyfrif HSBC drwy'r Swyddfa Bost.

Maen nhw hefyd yn gweithio gyda darparwyr allanol i geisio sicrhau y bydd gwasanaeth twll yn y wal yn parhau yn yr ardal.