麻豆官网首页入口

Bwrdd Iechyd Betsi i barhau mewn mesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
GC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth adroddiad o hyd i "gamdriniaeth sefydliadol" ar ward iechyd meddwl Tawel Fan

Bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd arall, yn 么l y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.

Bydd prif weithredwr y bwrdd iechyd, yr Athro Trevor Purt, sydd wedi ei wahardd ers mis Mehefin, yn camu o'r neilltu.

Mae'r bwrdd iechyd wedi bod o dan y math uchaf o oruchwyliaeth y llywodraeth ers pedwar mis bellach.

Daeth adroddiad o hyd i "gamdriniaeth sefydliadol" ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Ym mis Mehefin daeth yn amlwg fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i gynlluniau gwario'r bwrdd iechyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr Athro Trevor Purt ei wahardd ym mis Mehefin

Fe gafodd adolygiad o'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y pedwar mis diwethaf ei gynnal yn ddiweddar gan swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Cafodd y cynnydd ei drafod mewn cyfarfod o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddydd Mercher.

'Camau cadarnhaol'

Dywedodd Mr Gething: "Cytunwyd yn y cyfarfod fod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd fel rhan o'r cynlluniau 100 diwrnod wedi sicrhau bod sylw yn cael ei hoelio mewn nifer o feysydd allweddol a bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd.

"Ond, i fynd i'r afael 芒'r heriau mwy sylfaenol, bydd angen cynlluniau tymor hwy i adeiladu ar y cam cychwynnol hwn yn y broses o sefydlogi. Bydd hyn yn arbennig o wir er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd.

"Felly, dw i wedi derbyn cyngor y cyfarfod gyda`r tri chorff, y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr barhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd.

"Rwy'n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd i'r sefydliad ond dw i am ddweud ar goedd bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn ynghylch ymateb y staff. Bydd eu hymroddiad a'u hegni nhw yn hanfodol i fynd i'r afael 芒'r heriau sydd i ddod o ran darparu gwasanaeth o ddydd i ddydd ac o ran gwella gwasanaethau i bobl y Gogledd."

"Byddaf i'n gwneud datganiad pellach am y cam nesaf o dan y trefniadau mesurau arbennig ar 么l y toriad."