Beiciwr Gwynedd: Gwrthod cais iawndal 拢50,000

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Melfyn Griffiths daro'r twll ar ffordd fynyddig ger Croesor, Gwynedd

Mae beiciwr wnaeth gais am 拢50,000 o iawndal gan Gyngor Gwynedd ar 么l torri dau asgwrn ac anafu ei ben wedi colli ei achos yn y Llys Ap锚l.

Fe wnaeth Melfyn Griffiths, 58 o Flaenau Ffestiniog, daro twll yn y ffordd ger Croesor yng Ngwynedd ym mis Mai 2009.

Roedd wedi gwneud cais am iawndal o 拢50,000, gan honni bod y cyngor wedi gadael "trap" i feicwyr drwy beidio 芒 thrwsio'r twll.

Penderfynodd barnwr yn Wrecsam mai Mr Griffiths oedd ar fai ac nid y cyngor, ac fe gafodd y cais am iawndal ei wrthod.

Fe wnaeth Mr Griffiths apelio yn erbyn y dyfarniad yn y Llys Ap锚l.

'Un o ffeithiau bywyd'

Dywedodd ei gyfreithwyr bod un o swyddogion y cyngor wedi gweld y twll cyn y digwyddiad, a'i fod yn ddigon dwfn fel bod angen gwaith trwsio brys.

Dywedon nhw hefyd nad oedd Cyngor Gwynedd wedi gwneud digon i amddiffyn y cyhoedd rhag y perygl.

Ond mae dau farnwr, yr Arglwydd Ustus Clarke a'r Arglwydd Ustus Burnett, yn Llundain wedi gwrthod ei achos, gan ddweud bod tyllau ar y ffyrdd yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r cyhoedd "dderbyn fel un o ffeithiau bywyd".

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Clarke: "Roedd y risg yn isel ac fe fyddai cost trwsio namau o'r fath ar draws y wlad yn enfawr."

Ychwanegodd: "Gall nam ar ffordd fynydd, sy'n gyffredin ac anhynod, gael ei ystyried fel rhywbeth sydd ddim wir yn berygl."