麻豆官网首页入口

Cannoedd o Gymry yn canu yn Times Square

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cannoedd o Gymry yn Times Square

Roedd 'na awyrgylch cwbl Gymreig ynghanol Times Square yn Efrog Newydd dros nos gyda channoedd o bobl ifanc yn dod ynghyd ar gyfer perfformiad go arbennig.

Mae nifer o ysgolion o Gymru ar daith i'r Unol Daleithiau ar hyn o bryd, ac fe benderfynodd un athro ddod 芒 phawb at ei gilydd i ganu Hen Wlad fy Nhadau yn un o leoliadau mwyaf eiconig Efrog Newydd.

Yn 么l Dr Huw Griffiths o Ysgol Bro Myrddin, roedd o'n awyddus i "wneud rhywbeth hollol wallgo'" gan fod nifer o Gymry yn y ddinas ar yr un pryd, felly fe benderfynodd wahodd pawb i ymuno 芒 ch么r yr ysgol ar y sgw芒r.

Yn ogystal, fe roddwyd gwahoddiad i Gymdeithas Dewi Sant Efrog Newydd, yn y gobaith o ddenu Cymry alltud y ddinas i ymuno yn y canu.

Ymysg yr ysgolion fu'n rhan o'r digwyddiad, roedd:

Ysgol Bro Dinefwr

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Morgannwg

Ysgol Bro Myrddin

Ysgol Bro Pedr

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ysgol Uwchradd Llanisien

Roedd Ffion o Gaerdydd yn rhan o'r fflash-mob, ac fe ddywedodd ei bod "yn anrhydedd fawr i fod yn Efrog Newydd yn canu yn Gymraeg a chynrychioli Cymru mewn ffordd mor bositif, ar raddfa bydd llawer o bobl yn ei weld - fel y dorf enfawr sy' yma heddiw."

Mae Sion Rogers - sy'n byw a gweithio yn Efrog Newydd - ymysg y rhai aeth draw wedi'r cyhoeddusrwydd ar wefannau cymdeithasol.

"Dw i erioed di cerdded trwy'r sgw芒r a chlywed gymaint o bobl yn siarad Cymraeg. Teimlad anhygoel!" meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Oeddech chi yno?