麻豆官网首页入口

Pen-blwydd hapus Bryn Terfel yn 50

  • Cyhoeddwyd
Bryn TerfelFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bryn Terfel wedi recordio rhaglen arbennig ar gyfer S4C i nodi ei ben-blwydd yn 50

Ar 9 Tachwedd bydd un o gantorion enwocaf Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig. Ydi, mae Bryn Terfel yn 50. Pwy feddyliai n么l yn niwedd 1965 y byddai mab i ffermwr defaid o Bant Glas yn Nyffryn Nantlle yn llenwi rhai o neuaddau mwya'r byd?

Dechreuodd ddarllen cerddoriaeth a chwarae'r piano pan oedd yn fachgen, a chafodd ei fagu'n canu caneuon gwerin a cherdd dant ar lwyfannau eisteddfod.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes cyn mynd i goleg cerdd a drama y Guildhall yn Llundain.

Ers iddo ennill y wobr Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd ym 1989, mae gyrfa Bryn Terfel wedi mynd o nerth i nerth.

Ychydig ddyddiau cyn ei benblwydd bu'n siarad ar raglen Dewi Llwyd ar fore Sul ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru ac mae modd clywed y cyfweliad hwnnw drwy glicio yma.

Wrth iddo baratoi i ddathlu ei ben-blwydd arbennig, cafodd Cymru Fyw sgwrs efo Bryn am ei lwyddiannau hyd yn hyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd Bryn y dathliadau ar 21 Hydref gyda chyngerdd arbennig yn Neuadd Albert yn Llundain

Sut mae'n teimlo i gyrraedd y 50?

Arbennig! Mae'n braf iawn cael edrych n么l, a hefyd fy mod i wedi cael cyfle i wneud dwy raglen sy'n olrhain sut mae fy ngyrfa wedi datblygu.

Fe gafodd un rhaglen ei recordio yng Nghaerdydd gan S4C yn ddiweddar, gyda chyfraniadau a chyfarchion gan bobl sydd wedi bod yn rhan bwysig yn fy ngyrfa, a'r bobl sydd wedi bod yn gefn i mi ar hyd y blynyddoedd.

Ac yna'r cyngerdd yn

Oes 'na benblwyddi cofiadwy wedi bod?

Heb os, mae'r cerrig milltir arferol i gyd yn sefyll allan, ond mi ges i barti da iawn pan yn 18 oed, parti yn y Dingle yn Dinas Dinlle gyda nifer fawr o ffrindiau a theulu.

Beth ydi'r uchafbwyntiau hyd yma?

Fedra i ddim peidio s么n am gystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd yn 1989 (pan enillodd y wobr Lieder).

Dyma osododd y llwyfan i sut berfformiwr oeddwn i. Wrth gwrs, fe agorodd o sawl drws, ond roedd 'na nifer o glyweliadau i'w gwneud wedi hynny, mi es i 38 o glyweliadau ar 么l y gystadleuaeth, a dim ond dwy swydd y ces i allan o'r cyfan.

Dwi'n cofio canu yn Eisteddfod Porthmadog efo Syr Geraint Evans ar fwrdd y beirniad. Roedd cefnogaeth Syr Geraint, boed hynny'n un galwad ff么n ganddo i un arweinydd pwysig o fewn y busnes, yn fenyn ar fara rhywun. Roedd Syr Geraint yn gymeriad pwysig iawn yn y byd opera clasurol.

Dwi'n meddwl hefyd am y llefydd dw i wedi'u troedio; Efrog Newydd, La Scala ym Milan a Pharis.

Mae 'na lot hefyd wedi digwydd am fy mod wedi bod yn y lle iawn ar yr amser iawn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bryn yn dathlu carreg filltir arall: Gyda'i deulu yn ei barti pen-blwydd yn 18

Lle ydi dy hoff lefydd i berfformio?

Y T欧 Opera Brenhinol yn Covent Garden a G诺yl yr Haf yn Salzburg.

Ydi popeth wedi mynd fel wyt ti wedi eu cynllunio?

Do, fedra i ddim cwyno. Mae 'na elfen o lwc wedi bod.

Dwi wedi llwyddo i gael cymryd rhan yn y gwahanol elfennau sydd 'na i berfformio, boed hynny yn agor Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd yn 1999, perfformio ar raglenni teledu efo Tom Jones, chwarae rhan Wotan yn y 'Ring Cycle' yn Efrog Newydd neu yn cael y fedal i gerddoriaeth gan y Frenhines. Mae 'na bwysigrwydd i'r cyfan oll.

Oes 'na bethau wyt ti'n ddifaru?

Nagoes a dweud y gwir, ond mae 'na sawl achlysur wedi bod lle nad ydw i wedi teimlo cant y cant, ac yn anffodus gorfod dioddef bod ar lwyfan tra 'di rhywun ddim yn teimlo'n holliach, ond mae hynny yn rhan o fod yn berfformiwr byw.

Pa fath o waith wyt ti'n mwynhau ei wneud fwyaf? Opera, cyngherddau, sioeau cerdd...?

Dwi heb glustnodi un cyfrwng i fod yn bwysicach na'r llall. Dwi'n un sy'n hoffi tipyn o liw, yn hoff o falans, dewis ac amrywiaeth.

Mae 'na dipyn o gynhwysion yn mynd mewn i wneud cawl, a dwi'n berson sy'n licio mynd ar 么l y cynhwysion gwahanol. Dwi hefyd wedi mwynhau cael cymryd rhan mewn rhaglenni teledu a radio.

Oes 'na gyfansoddwyr penodol 'wyt ti'n hoffi perfformio eu gwaith?

Yn y 15 mlynedd gyntaf, Mozart ydi'r cyfansoddwr mae rhywun yn dueddol o berfformio, yna mae rhywun yn symud ymlaen i berfformio gwaith rhywun fel Verdi a Wagner, ac mae 'na lu o gyfansoddwyr 'dwi wedi cael y fraint o berfformio eu gwaith mewn cyngherddau ar draws y byd.

Ffynhonnell y llun, Alf Sorbello

Beth sydd ar y rhestr ar gyfer y 50 mlynedd nesa'?

Mi fyswn i wrth fy modd cael mynd i berfformio mewn gwledydd newydd fel Patagonia a Mexico, ac efallai mynd yn 么l i rai o'r gwledydd 'dwi wedi mwynhau ymweld 芒 nhw.

Sut fyddi di'n ymlacio?

Pan mae 'na amser, dwi'n hoff o chwarae golff, a dilyn chwaraeon fel p锚l-droed a rygbi, casglu gwin - a dim jyst gwinoedd o Ffrainc! Mae 'na winoedd arbennig i'w cael o wledydd fel Seland Newydd, De Affrica, Chile ac Awstralia.

Pe buaset ti yn ymddeol yfory, pa dri pheth fuaset ti'n mynd efo ti i ynys bell?

Mi fyswn i'n mynd 芒 beic, efo basged ar y tu blaen! Er mwyn cael mynd o un lle i'r llall ar yr ynys, a hefyd er mwyn gweithio ar y ffitrwydd.

Mi fyswn yn mynd 芒 hen gramoffon - fel nad oes angen cyflenwad trydan! A bocs o hen LPs fysa'n cynnwys artistiaid fel Robert Plant a Led Zeppelin, Pink Floyd, Rolling Stones a sawl record o Gymru, gan gynnwys Dafydd Iwan a Caryl Parry Jones.

Ac yn drydydd... gwialen bysgota. Pan o'n i yn hogyn ifanc ym Mhant Glas, ro'n i'n mynd i 'sgota i'r afon ger Nantcall bob dydd Sadwrn, a dim ond un eog nes i 'rioed ei ddal! Ac mi roedd hi'r amser anghywir o'r flwyddyn prun bynnag.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Bryn yn treulio diwrnod ei ben-blwydd yn Monte Carlo yn perfformio'r opera 'Tosca'

Mae 'na gyfleoedd i ddathlu'r 50 gyda Bryn ar S4C a 麻豆官网首页入口 Radio Cymru:

Bryn fydd gwestai Pen-blwydd Dewi Llwyd ar Fore Sul, 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, 8 Tachwedd, 08:31