Cymeradwyo pencadlys newydd 麻豆官网首页入口 Cymru yng Nghaerdydd

Disgrifiad o'r llun, Cynlluniau'r ganolfan newydd arfaethedig

Mae cynlluniau i adeiladu pencadlys newydd 麻豆官网首页入口 Cymru yng nghanol Caerdydd wedi eu cymeradwyo.

Bydd y gwaith yn cychwyn ar 7 Ragfyr ac mae disgwyl i bron i 1,200 o staff sy'n gweithio ar y safleoedd presennol yn Llandaf symud i'r ganolfan newydd yn 2019.

Mae'r gorfforaeth wedi arwyddo cytundeb gyda Rightacres, y cwmni sy'n datblygu'r adeilad newydd ac ardal ehangach y Sgw芒r Canolog.

Cynulleidfaoedd

Dywedodd cyfarwyddwr 麻豆官网首页入口 Cymru, Rhodri Talfan Davies, bod y lleoliad yn gyfle i fod yn agosach at gynulleidfaoedd.

Bydd yr adeilad newydd yn 150,000 troedfedd sgw芒r - hanner maint y cyfleusterau presennol yn Llandaf.

Mae S4C hefyd yn bwriadu bod yn rhan o'r ganolfan newydd drwy symud ei hadnoddau darlledu yno, gan leihau costau darlledu'r ddau sefydliad.

Dyma ran o brosiect adfywio ehangach a fydd yn trawsnewid y Sgw芒r Canolog, gan gynnwys swyddfeydd, siopau a thrafnidiaeth.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau ar y safle

Dywedodd Mr Talfan Davies y bydd y ganolfan ddarlledu newydd yn gosod 麻豆官网首页入口 Cymru "yng nghalon ein prifddinas - yn nes at ein cynulleidfaoedd a llawer o'n partneriaid".

Ychwanegodd: "Bydd hefyd yn sbarduno adfywiad llawer ehangach fydd yn helpu i drawsnewid Caerdydd.

"Mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn cyffwrdd bywydau miliynau o bobl nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a thu hwnt - felly rwyf wrth fy modd y bydd y buddsoddiad strategol allweddol hwn yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer ein dyfodol gyda hyder go iawn."

"Carreg filltir"

Croesawodd y Prif Weinidog y cyhoeddiad gan ei ddisgrifio fel "carreg filltir sylweddol i 麻豆官网首页入口 Cymru a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru".

Dywedodd Carwyn Jones: "Mae uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector yn wirioneddol fyd-eang wrth i ni barhau i gefnogi datblygiad talent, sgiliau ac arbenigedd creadigol yng Nghymru.

"Edrychwn ymlaen at weld effaith bositif a pharhaol y cyhoeddiad heddiw ar y sector gyffrous a llwyddiannus yma."

Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: "Dyma newyddion gwych i Gaerdydd ac i gynlluniau'r Cyngor i adfywio'r rhan hon o'r ddinas."

Fe ddatgelodd y 麻豆官网首页入口 y bwriad i symud i adeilad newydd sbon y tu allan i orsaf drenau Caerdydd Canolog ym mis Mehefin 2014.

Ffynhonnell y llun, Rightacres Property

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i oddeutu 1,000 o bobl weithio yn y ganolfan newydd wedi iddi gael ei chwblhau