Cymry wedi'u dal ynghanol y gyflafan ym Mharis

Disgrifiad o'r fideo, Aled Huw yn adrodd o Baris

Mae Cymry oedd ymysg y rhai gafodd eu dal yng nghanol y gyflafan ym Mharis wedi disgrifio'r panig ac ofn ar y strydoedd.

Cafodd o leia' 129 o bobl eu lladd mewn chwe ymosodiad ar draws y brifddinas nos Wener.

Roedd Seiriol Hughes, o Gaernarfon, yn y Stade de France yn gwylio'r g锚m b锚l-droed rhwng Ffrainc a'r Almaen pan glywodd y cefnogwyr ffrwydradau.

Fe ymosododd y bomwyr a'r dynion arfog ar fariau, tai bwyta a neuadd gyngerdd yn y ddinas.

Mae'r mudiad sy'n galw eu hunain yn Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am y gyflafan.

Disgrifiodd Mr Hughes ei fod wedi clywed "clec uchel, s诺n ffrwydrad ac fe aeth y dorf yn ddistaw" yn y Stade de France, ond bod pobl yn meddwl mai t芒n gwyllt ydoedd.

Disgrifiad o'r llun, Y Cynulliad wedi'i oleuo nos Sadwrn

Dywedodd mai dim ond ar 么l y g锚m, wedi i'r torfeydd adael y stadiwm, y daeth pobl i ddechrau deall yr hyn oedd wedi digwydd.

"Mae'n rhaid bod rhywbeth wedi sbarduno, ac fe ddechreuodd pobl redeg i ffwrdd, codi eu plant a rhedeg a gyda golwg o banig ac ofn yn eu llygaid a doedden ni methu gweithio allan pam," meddai.

"Ond, pan oedden ni ar y tr锚n ar y ffordd o'r stadiwm, fe ddechreuon ni gael signal ff么n ac yna fe ddechreuodd y negeseuon ddod trwodd, bod rhywbeth yn amlwg wedi bod yn digwydd ac nid t芒n gwyllt oedd y ffrwydradau."

Disgrifiad o'r fideo, Roedd s诺n ffrwydriad i'w glywed yn ystod g锚m b锚l-droed yn y Stade de France ym Mharis

'Sioc'

Roedd Yr Athro Ceri Davies, o Benarth, mewn tafarn gyfagos, a aeth ati'n syth i dynnu gorchuddion ffenestri i lawr er mwyn cadw cwsmeriaid yn ddiogel.

"Rydyn ni mewn sioc," meddai. "Fe gawsom ein cynghori i aros yn y dafarn fel eu bod yn cau'r rhwystrau metel."

Roedd y digwyddiad gwaethaf i'w weld yn neuadd y Bataclan, yn nwyrain y ddinas, ble'r oedd dynion arfog wedi cymryd gwystlon yn ystod cyngerdd roc.

Ffynhonnell y llun, AP

Disgrifiad o'r llun, Roedd Seiriol Hughes yn y Stade de France pan ddechreuodd yr ymosodiadau

Mae Jonathan Hill, o Gaerdydd, a oedd hefyd yn agos i neuadd y Bataclan, wedi disgrifio gweld "Samariad Trugarog" yn sefyll yn y stryd ac yn gweiddi ar bobl i fynd dan do.

"Clywais dair ergyd wahanol," meddai. "Fe welais i rywun yn cwympo i'r llawr."

Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi disgrifio'r ymosodiadau fel "gweithred o ryfel".

Ffynhonnell y llun, AFP

Disgrifiad o'r llun, Mae gwasanaethau diogelwch Ffrainc nawr ar ei lefel uchaf o wyliadwriaeth

COBRA

Fe ymunodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, 芒 phwyllgor argyfwng COBRA llywodraeth Prydain fore Sadwrn.

"Ry'n ni'n sefyll mewn undod gyda phobl Ffrainc heddiw yn dilyn y digwyddiadau dychrynllyd ym Mharis," meddai.

"Ni chafodd hyn ei wneud yn enw unrhyw grefydd, cafodd ei wneud yn enw terfysgaeth."

"Ry'n ni'n gadarn ac yn unedig yn ein hymrwymiad i amddiffyn pobl y wlad yma, ac ein ffordd o fyw."

Fe gadarnhaodd hefyd fod lefel diogelwch y DU yn aros yn uchel, ac roedd yn annog pawb i "aros yn wyliadwrus".

Disgrifiad o'r fideo, Ymateb Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Cydymdeimladau

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi anfon ei chydymdeimlad at bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr ymosodiadau, ac wedi galw am dawelwch yn y ddinas a ledled y byd yn wyneb y digwyddiadau.

Dywedodd bod y gyflafan yn "ddigwyddiad trasig ac ofnadwy sydd yn amlwg wedi ei fwriadu i godi braw a dychryn ymysg poblogaeth Ffrainc".

"Yng ngoleuni'r ymosodiadau hyn ar bobl ym Mharis, safwn yn unedig gyda phawb yn yr holl gymunedau sydd y mae'r gweithredoedd treisgar enbyd hyn wedi effeithio arnynt," meddai.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod wedi cael braw pan glywodd am y digwyddiadau.

"Roedd hyn yn beth ofnadwy, ymosodiadau creulon gan bobl sy'n amlwg ddim yn gweld gwerth i fywyd," meddai.

Mae Cyngor Mwslemiaid Cymru wedi datgan eu cydymdeimlad, gan ddweud "nad oes unrhyw beth yn Islamaidd" am y rhai a gyflawnodd yr ymosodiadau, gan eu disgrifio fel "gweithredoedd mileinig".