Heddlu: 'Toriadau o hyd at 40%'

Disgrifiad o'r llun, Comisiynydd Heddlu Gwent: Gallai toriadau effeithio ar ymateb i ymosodiad fel un Paris

Mae Heddlu Gwent wedi cael gwybod cyn adolygiad gwariant y llywodraeth fod rhaid paratoi ar gyfer toriadau rhwng 25% a 40%.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddau Ian Johnston y gallai toriadau'r Swyddfa Gartref effeithio ar unrhyw ymateb i ymosodiad fel un Paris.

Mae disgwyl i'r heddlu arbed 拢65m erbyn 2021 ac mae'n debygol y bydd 300 o swyddogion yn gadael erbyn 2018.

Eisoes mae uwchblismyn Gogledd Cymru a Dyfed-Powys wedi rhybuddio am effeithiau toriadau.

Fformiwla

Mewn e-bost i staff mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Mark Polin wedi dweud y bydd toriadau rhwng 25 a 40% yn bosib.

Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys Christopher Salmon wedi dweud ei fod yn poeni am newid y fformiwla ariannu fyddai'n ffafrio lluoedd trefol.

Yn gynharach y mis hwn rhybuddiodd Comisiynydd Heddlu De Cymru fod "toriadau ariannol llymach" yn "anochel".