麻豆官网首页入口

Mwy o gefnogaeth i droseddwyr sy'n gadael y carchar

  • Cyhoeddwyd
Carchar

Bydd troseddwyr, sy'n wynebu bod yn ddigartref ar 么l gadael y carchar, yn cael mwy o gefnogaeth.

Y nod ydi sicrhau bod unigolion sydd wedi bod dan glo yn cael lloches mewn t欧 yn hytrach na gwely a brecwast.

Fe lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun Llwybr Cenedlaethol ddydd Mawrth fel bod modd i sefydliadau weithio'n well gyda'r rheiny sy'n gadael y carchar.

Bydd carcharorion sy'n wynebu bod yn ddigartref yn dechrau cael cefnogaeth 56 diwrnod cyn eu rhyddhau.

Canlyniadau 'positif'

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau fod y cynllun eisoes yn cael ei ddefnyddio gan rai sefydliadau a bod hyn wedi arwain at "ganlyniadau positif".

Ychwanegodd Lesley Griffiths fod llety sefydlog yn ffactor "allweddol" wrth geisio atal pobl rhag aildroseddu.

"Mae'r ymrwymiad rhai cwmn茂au adsefydlu cymunedol, timau troseddau ieuenctid ac awdurdodau lleol wedi gwneud argraff arna i," meddai.

"Dwi'n falch o gael clywed sut maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i wella cyfleoedd pobl sy'n gadael y ddalfa a lleihau'r achosion lle mae pobl ifanc yn cael eu rhoi mewn gwely a brecwast."