麻豆官网首页入口

Athrawon cyflenwi: 'Angen gwella' trefn ddarparu

  • Cyhoeddwyd
ysgol

Mae angen gwella trefn ddarparu athrawon cyflenwi i ysgolion, yn 么l gr诺p o Aelodau Cynulliad.

Dyw'r system bresennol ddim yn gweithio'n ddigon da ac fe ddylai gael ei hadolygu, meddai'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Un asiantaeth sy' 芒 chytundeb i Gymru gyfan ar hyn o bryd.

Ond mae adroddiad y pwyllgor wedi rhybuddio y dylai'r llywodraeth ystyried modelau eraill ar gyfer llenwi'r bylchau yn sgil absenoldeb athrawon.

Dysgu llai

Fe lenwodd tua 1,500 o bobl arolwg ar gyfer yr adroddiad i greu darlun o sut mae'r system yn gweithio.

Y casgliad oedd bod 30% o ddisgyblion yn cael eu dysgu gan athro cyflenwi gwahanol bob tro.

Dywedodd 80% bod disgyblion yn dysgu llai gyda'r absenoldeb yn arwain at ymddygiad plant yn gwaethygu.

Mae'r pwyllgor wedi dweud bod diffyg data dibynadwy ar gyfer y rhesymau am absenoldebau salwch athrawon.

Athrawon o'r 'radd flaenaf'

Rhybuddiodd cadeirydd dros dro'r pwyllgor, David Rees: "Rhaid sicrhau bod hyn yn nod cyffredin, bod athrawon cyflenwi yn cael eu darparu yn effeithiol lle bo eu hangen, a bod y ddarpariaeth o'r radd flaenaf, fel y caiff disgyblion addysg o ansawdd.

"Rydym yn nodi y gallai canllawiau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn ystod ein hymchwiliad, fynd i'r afael 芒 rhai o'r pryderon a godwyd.

"Ond mae ein prif argymhelliad yn galw ar i Lywodraeth Cymru edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, gan gynnwys trefniadau clwstwr sy'n cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol neu drwy gorff cenedlaethol."