O blaid canolfan gelfyddydau newydd i Wrecsam

Mae pwyllgor craffu wedi cymeradwyo cynlluniau i godi canolfan gelfyddydau newydd ar gost o 拢4.5m a hynny ym mhrif farchnad dan do Wrecsam.

Dywedodd y cyngor y byddai Oriel Gelfyddydau yn trawsnewid Marchnad y Bobl ac yn denu mwy o bobl i ganol y dref.

Ond roedd adroddiad swyddogion wedi rhagweld y bydd y ganolfan yn gwneud colled o bron i 拢400,000 am y tair blynedd cyntaf.

Mae ffigyrau'r adroddiad yn tybio y bydd ymddiriedolaeth annibynnol yn cael ei sefydlu gan y cyngor i reoli'r ganolfan newydd.

Yr un ymddiriedolaeth fydd yn gyfrifol am lyfrgell, amgueddfa a gwasanaeth archif y sir.

Cymorthdal

Os yw'r cyngor llawn yn cymeradwyo'r cynllun fe fydd yn gwneud cais am gymhorthdal o 拢2.3m gan Gyngor y Celfyddydau.

Fe fyddai'r cyngor yn cyfrannu 拢1,563,500 gyda 拢700,000 yn dod o Lywodraeth Cymru.

Fe allai'r gwaith adeiladau ddechrau yn Ionawr 2017 a'i gwblhau o fewn 12 mis.

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen canolfan o'r fath ond eu bod yn amheus o'r lleoliad newydd.

Ac mae rhai o stondinwyr Marchnad y Bobl hefyd wedi mynegi pryder am y cynllun.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Wrecsam

Disgrifiad o'r llun, Llun artist o'r farchnad ar ei newydd wedd