麻豆官网首页入口

Kinnock: Amheuaeth Ewropeaidd yn newid

  • Cyhoeddwyd
Neil KinnockFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyn arweinydd y blaid Lafur, Neil Kinnock wedi dweud bod amheuaeth o'r Undeb Ewropeaidd o fewn y blaid Geidwadol yn debyg i Enoch Powell yn "ennill y ddadl o'i fedd".

Dywedodd yr arglwydd Kinnock, oedd yn Gomisiynydd Ewropeaidd ac yn Is-lywydd ar y Comisiwn Ewropeaidd, bod newid clir wedi bod mewn agweddau gwleidyddol tuag at Ewrop ers y refferendwm cyntaf ar aelodaeth Prydain yn 1975.

Fel Enoch Powell, fe wnaeth yr Arglwydd Kinnock fethu yn ei ymgyrch am bleidlais 'Na' 40 o flynyddoedd yn 么l.

Dywedodd wrth raglen 麻豆官网首页入口 Radio Wales, Sunday Supplement: "Roeddwn i'n poeni am atyniad buddsoddiad a swyddi tuag at ganol beth oedd bryd hynny'r farchnad sengl ac i ffwrdd o ardaloedd fel yr un oeddwn i'n ei gynrychioli, Bedwellte'r adeg honno..."

'Tueddiad at ynysiad'

"Yr hyn oedd yn glir, er nad oeddwn i'n deall ar y pryd, oedd wrth i'r Comisiwn Ewropeaidd weithio i sefydlu cyllid datblygu rhanbarthol ac amrywiaeth o fesurau fyddai'n lleddfu'r atyniad i fuddsoddiad a swyddi tuag at y canol.

"Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio mae'n fwy amlwg, nid yn unig oherwydd y gronfa ddatblygu ranbarthol sydd yn amlwg yn helpu Cymru yn sylweddol, ond hefyd oherwydd penderfyniadau buddsoddi sy'n golygu mai'r DU yw'r wlad sy'n derbyn y buddsoddiad rhyngwladol mwyaf yn y farchnad sengl, mwy na'r Almaen hyd yn oed...

"Dyna'r ddau newid gwleidyddol ac economaidd sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd sydd wedi creu newid radical a dwfn o fewn y mudiad Llafur."

Dywedodd hefyd bod "tueddiad at ynysiad" o fewn y blaid Geidwadol sydd wedi tyfu, a bod hynny "mewn ffordd fel Enoch Powell yn ennill y ddadl o'i fedd".

"Nid yw'n berthnasol i bob Tori, ymhell o hynny, ond mae elfen weithredol, elfen frwdfrydig ac ideolegol sydd bron wedi tynnu'r blaid i'r cyfeiriad arall."