'Treth brechdanau' wedi cythruddo AC

Mae cynlluniau dadleuol yng Nghaerffili, a allai olygu y bydd rhieni yn cael eu gorfodi i dalu ffi os yw eu plant yn dewis mynd a brechdanau i'r ysgol, wedi cythruddo un AC Plaid Cymru.

Pwrpas y ffi arfaethedig yw talu am gostau staff y cyngor, sy'n goruchwylio mewn ffreuturau ysgol.

Yn 么l Cyngor Caerffili, dim ond "un o nifer o gynigion" sy'n cael eu hystyried gan y cyngor yw hwn, wrth iddynt edrych i wneud dros 拢9 miliwn o arbedion ar gyfer y flwyddyn nesaf.

O dan y cynllun arfaethedig, sydd dan ymgynghoriad gan swyddogion y cyngor, gallai 75 o ysgolion cynradd wynebu cost o 拢174,000 - tua 拢 2,200 yr un - am y staff.

Mae'r ffi yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n dewis dod 芒 brechdanau i'r ysgol.

Daeth rhybudd y gallai'r gost gael ei basio ymlaen i rieni'r plant sy'n dod 芒 brechdanau i mewn.

Mae swyddogion hefyd wedi rhybuddio y gallai'r cynnig hyd yn oed arwain at blant yn colli'r dewis i ddod 芒 brechdanau eu hunain i'r ysgol, er mwyn cynyddu'r nifer sy'n bwyta cinio ysgol.

'Ysgolion dan bwysau'

Dywedodd Lindsay Whittle AC, sy'n ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Gaerffili: "Mae cyllidebau ysgolion eisoes dan bwysau, felly mae'n ymddangos yn debygol y bydd y t芒l hwn yn cael ei basio ymlaen i rieni gan lawer o ysgolion.

"Mae llawer o blant yn cymryd brechdanau oherwydd dyna sy'n well ganddyn nhw. Er bod rhai rieni, sy'n gweithio a ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim i'w plant, yn rhoi brechdanau iddynt am nad ydynt yn gallu fforddio talu am brydau bwyd."

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae hwn yn un o nifer o gynigion a gyflwynwyd i'w hystyried gan fod y cyngor yn edrych i wneud mwy na 拢9 miliwn o arbedion ar gyfer y flwyddyn nesaf".

"Mae'n bwysig pwysleisio ein bod, wrth osod y gyllideb ar gyfer 2016/17, wedi gwneud ymrwymiad i gwrdd 芒'r addewid ysgolion, a fydd mewn gwirionedd yn gweld twf o 拢1.9m yn ychwanegol ar gyfer ysgolion y sir.

"Rydym wedi ymgynghori'n helaeth ar y cynnig hwn gyda phenaethiaid yr ysgolion, ac yn sicr does dim bwriad y bydd unrhyw effaith ariannol yn cael ei drosglwyddo i rieni."

Bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer 2016/17 yn cael ei gytuno mewn cyfarfod o'r Cyngor ar 24 Chwefror.