Cadarnhau Bargen Ddinesig gwerth 拢1.2bn

Cafodd cynllun i greu Bargen Ddinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei lofnodi'n ffurfiol ddydd Mawrth.

Mae'r partneriaid sy'n rhan o'r datblygiad yn rhagweld y gallai 25,000 o swyddi newydd gael eu creu o ganlyniad i'r cynllun, ac y bydd 拢4bn yn cael ei fuddsoddi yn y sector preifat ar draws y rhanbarth.

Mewn seremoni ym mhrif swyddfa cwmni Admiral yng Nghaerdydd, cafodd y cytundeb ei lofnodi gan ddeg o arweinwyr awdurdodau lleol, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, Prif ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands a'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Y gobaith yw y bydd y Fargen Ddinesig yn rhoi hwb economaidd, trwy wella cysylltiadau trafnidiaeth, cynyddu sgiliau, cynorthwyo pobl i gael gwaith a rhoi'r cymorth i fusnesau dyfu.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fod cytundeb Bargen Ddinesig, sy'n werth 拢1.2 biliwn ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hwb economaidd enfawr a fydd yn ysgogi twf ledled y rhanbarth.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies: "Mae hwn yn gyfle unigryw ac yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth y DU yn rhoi blaenoriaeth i Gymru, a bod y Ceidwadwyr yn cyfrannu at dwf cymunedau ar draws y wlad."

"Creu rhanbarth llewyrchus"

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale eu bod wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau'r cytundeb: "Yn ariannol, rydym ni wedi llwyddo i sicrhau bargen fwy ar gyfer pobl ein hardal na Bargen Ddinesig Glasgow, ond nawr y mae'r gwaith caled yn dechrau go iawn.

"Rydym ni am i'r Fargen wneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau pobl a gwella cyfleoedd i'n dinasyddion i gyd. Mae'r arwyddo heddiw yn golygu y gall gwaith fynd rhagddo er mwyn creu rhanbarth sy'n cynnwys pawb ac yn un fwy llewyrchus."

Tra'n croesawu'r datblygiad, galwodd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yng Nghymru ar y Canghellor George Osborne i ymestyn y cysyniad hwn i leoedd eraill fel Abertawe ac ardaloedd mwy gwledig yn y gorllewin.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn arwyddo'r cytundeb ddydd Mawrth