Ateb y Galw: Sarra Elgan

Y gyflwynwraig Sarra Elgan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Mike Phillips.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Cystadlu yn Eisteddfod Capeli Brynaman pan o'n i'n dair oed.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi wedi cael sawl un… Anghofio geiriau mewn gwasanaeth ysgol pan yn y chweched dosbarth a chyflwyno Daniel Bedingfield fel Daniel Bedington ar 'Top of the Pops' ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú One.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n berson eitha' emosiynol - siwr mai wrth wylio film Disney gyda'r plant!!!!!

Ffynhonnell y llun, S4c

Disgrifiad o'r llun, Daeth Sarra i amlygrwydd fel un o gyflwynwyr 'Planed Plant'

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pigo nail varnish bant o fy ngwinedd!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mynydd Du - atgofion hyfryd o'm plentyndod.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ein priodas.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Sensitif, emosiynol a ffyddlon.

Beth yw dy hoff lyfr?

Unrhyw hunangofiant.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy nghot dwym 'Para Jumpers' sy'n cadw fi'n gynnes wrth ochr y cae. Hefyd pâr o esgidiau Christian Louboutin na'th Simon a'r plant brynu i mi Nadolig diwetha' - fyddai ddim yn gwisgo rheiny ar gae rygbi!

Disgrifiad o'r llun, Simon Easterby, gŵr Sarra, newydd gael clywed faint yw pris sgidie' Christian Louboutin. Ar ôl serennu i'r Scarlets, mae e bellach yn hyfforddi blaenwyr carfan Iwerddon

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Hotel Transylvania 2' (gyda'r plant!).

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Cameron Diaz - achos ma' hi'n 'neud comedi yn dda!!

Dy hoff albwm?

'25' gan Adele.

Ffynhonnell y llun, Mei Lewis

Disgrifiad o'r llun, Mae Sarra i'w gweld yn rheolaidd yn cadw trefn ar Jonathan a Nigel

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs - Stecen a sglodion

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Neb - dwi mwy na hapus gyda mywyd i!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Lucy Owen