Ystyried dyfodol gwleidydd Ukip

Ffynhonnell y llun, Media Wales

Disgrifiad o'r llun, Pwyllgor gwaith UKIP yn bwriadu siarad gyda`r ymgeisydd Gareth Bennett

Mae un o wleidyddion blaenllaw UKIP wedi dweud y bydd Pwyllgor Gwaith y blaid yn ystyried a ddylid tynnu enw ymgeisydd ar gyfer etholiadau`r Cynulliad o`r rhestr wedi iddo neud sylwadau am fewnfudwyr.

Roedd Gareth Bennett wedi dweud bod yna gysylltiad rhwng mewnfudwyr a`r sbwriel ar Ffordd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Yn 么l llefarydd UKIP ar fewnfudo, Steven Woolfe, does yna ddim lle yn y blaid i sylwadau senoffobig.

Mae swyddfa ganolog UKIP yn dweud na fyddan nhw`n gwneud unrhyw sylw hyd nes iddyn nhw siarad gyda`r ymgeisydd yn rhanbarth Canol De Cymru.

Camau cryfaf posib

Mae Mr Bennett wedi bygwth dod ag achos iawndal pe bai`n cael ei enw`n cael ei dynnu o`r rhestr ymgeiswyr heb i`r broses gywir gael ei dilyn.

Wrth siarad ar raglen Daily Politics y 麻豆官网首页入口, dywedodd Steven Woolfe:

"Os oes na islais o unrhyw fath o hiliaeth yno o gwbwl, yna fe fyddai`n mynnu bod y Pwyllgor Gwaith yn cymryd y camau cryfaf posib yn erbyn y dyn yma. "

Ychwanegodd, "Fe fyddai hefyd yn gofyn i`r rhai wnaeth ei archwilio a`i gymeradwyo, y dylien nhw hefyd gael eu ceryddu gan y Pwyllgor Gwaith, gan nad oes na unrhyw le yn y blaid ar gyfer unrhywun sy`n gwneud sylwadau o`r math yma."

Roedd Mr Bennett wedi ei ddyfynu ar wefan WalesOnline yn dweud bod Ffordd y Ddinas yn un o`r ardaloedd sydd wedi gweddnewid.

"Mae hynny siwr o fod oherwydd bod ganddon ni gymysgedd o sawl hil gwahanol, i gyd yn mynd ar nerfau ei gilydd, dwi`n meddwl, ac yn bendant yn achosi nifer o broblemau o ganlyniad i wahanol agweddau diwylliannol, a phroblem weledol sbwriel sy`n cael ei adael ar y stryd heb ei gasglu drwy`r amser. "

Fe ofynnodd Andrew Neil ar raglen Daily Politics i Mr Bennett pa dystiolaeth oedd ganddo i`w honiad mai ymfudwyr oedd yn achosi problem sbwriel.

Fe atebodd "Does gen i ddim tystiolaeth gadarn i roi i chi nawr.

"Mae nifer wedi neud y cysylltiad drwy drafodaethau gyda fi am y nifer o bobol sy`n dod yma o ddwyrain Ewrop."

Mae aelod o UKIP Cymru wedi galw ar i`w enw gael ei dynnu o rhestr yr ymgeiswyr, a`i bod hi`n orffwyll beio mewnfudwyr am y sbwriel. Ychwanegodd bod nifer o ymgeiswyr y blaid am ddelio gyda`r mater yn y ffordd gywir, er bod ganddo hawl i achos teg.

Fe gafodd Mr Bennett hefyd ei feirniadu am drafod pwnc mewnfudo, sydd ddim yn fater sydd wedi ei ddatganoli.

Mae swyddfa ganolog UKIP wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru na fydd "unrhyw sylw am y mater tan iddyn nhw siarad gyda Mr Bennett."

'Barn bersonol'

Dywedodd arweinydd Ukip yng Nghymru Nathan Gill:

"Bydd pwyllgor gweithredol canolog Ukip yn asesu'r dewis o ymgeiswyr hyd at y funud y bydd y gwaith papur terfynol yn cael ei gyflwyno i swyddogion etholiadol.

"Fe fydd sylwadau Mr Bennett, a'i berfformiad ar y cyfryngau, yn rhan bwysig o'r asesiad yna.

"Nid wyf yn rhannu'r farn y mae Mr Bennett wedi mynegi am fewnfudo yng Nghaerdydd.

"Nid ydym fel plaid yn erbyn mewnfudo, dim ond mewnfudo heb ei reoli.

"Mae Mr Bennett wedi mynegi ei farn bersonol ei hun, ac yn amlwg nid dyna farn y blaid."