Ffyrdd Cymru'n 'dirywio oherwydd diffyg gwariant'

Mae'n mynd i gymryd saith mlynedd a 拢700m i sicrhau fod holl ffyrdd Cymru mewn cyflwr boddhaol, medd adroddiad newydd.

Daeth arolwg Alarm (Annual Local Authority Maintenance) i'r casgliad fod ffyrdd Cymru'n cael wyneb newydd bob 59 mlynedd ar gyfartaledd, a bod 115,000 o dyllau wedi eu llenwi yma yn 2015.

Cafodd y casgliadau eu cyhoeddi wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi buddsoddiad o 拢28m mewn prosiectau trafnidiaeth.

Yn 么l yr arolwg, sy'n cael ei gynnal gan Gynghrair y Diwydiant Asphalt, fe hawliodd defnyddwyr ffyrdd Cymru iawndal gwerth 拢4m y llynedd.

Gwahaniaethau mawr

Mae'r ffigyrau'n dangos fod awdurdodau Cymru wedi cael mwy o gyllid ar gyfartaledd i gynnal a chadw ffyrdd nag awdurdodau yn Lloegr - 拢7.8m (拢7m oedd y ffigwr ar gyfer 2014/15).

Serch hynny, o ymchwilio ymhellach, mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod yna wahaniaeth mawr rhwng un awdurdod a'r llall, gyda rhai cynghorau'n cael nawdd ychwanegol, tra bo eraill yn gweld eu cyllidebau'n lleihau, a'r arian yn cael ei ddargyfeirio i adrannau eraill.

Yn y cyfamser, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, y bydd yr arian mae hi'n ei gyhoeddi yn cyfrannu at 100 o gynlluniau "i wella diogelwch, creu twf economaidd a hybu teithio llesol".

Ymysg y prosiectau fydd yn elwa mae , fydd yn cael 拢1.1m i wella mynediad i swyddi a gwasanaethau a lleihau tagfeydd a phroblemau ansawdd awyr ar yr A4067.

Rhai o'r cynlluniau eraill fydd yn elwa:

  • 拢1.4m ar gyfer ffordd gyswllt A48-A473 i wella mynediad i Yst芒d Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont
  • 拢1.1m ar gyfer canolfan drafnidiaeth Port Talbot
  • 拢1.7m tuag at adeiladu ffordd gyswllt Llangefni
  • 拢5m ar gyfer 30 o lwybrau cerdded a beicio mewn 20 awdurdod lleol
  • 拢1.9m ar gyfer rhaglenni hyfforddiant diogewlch ffyrdd fel PassPlus Cymru, Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol a hyfforddiant beicio modur.

Creu Comisiynydd Traffig

Cyhoeddodd Mrs Hart hefyd y bydd 拢210,000 yn cael ei glustnodi er mwyn creu r么l Comisiynydd Traffig Cymru a thri aelod o staff, os ceir s锚l bendith gan Lywodraeth y DU.

Byddai'r comisiynydd yn gyfrifol am faterion fel trwyddedu gweithredwyr Cerbydau Nwyddau Trwm a bysiau a choetsys; cofrestru gwasanaethau bws lleol a chaniat谩u trwyddedau galwedigaethol, a chymryd camau yn erbyn gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm a Cherbydau Gwasanaeth Cyhoeddus.