Darganfod dolffin wedi marw ar draeth ger Aberystwyth

Ffynhonnell y llun, Ali Chedgy/Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae dolffin wedi marw ar 么l mynd yn sownd ar draeth yng Ngheredigion, er gwaethaf ymdrechion i achub yr anifail.

Bu farw'r dolffin yn Ynyslas, ger Aberystwyth, cyn i Wylwyr y Glannau ei ddychwelyd i'r m么r.

Fe wnaeth syrffwyr alw Cyfoeth Naturiol Cymru ar 么l iddynt weld y dolffin, a gredir oedd tua 18 mis oed, ar 18 Mawrth.

Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gwblhau er mwyn helpu i ddeall sut daeth y dolffin yn sownd.

Ffynhonnell y llun, Ali Chedgy/Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffynhonnell y llun, Ali Chedgy/Cyfoeth Naturiol Cymru