麻豆官网首页入口

Nigel Farage yn ymbellhau oddi wrth ymgeisydd Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
FarageFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae arweinydd UKIP wedi ymbellhau oddi wrth ymgeisydd Cynulliad sydd wedi beio mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop am broblemau sbwriel mewn ardal yng Nghaerdydd.

Mi ddywedodd Nigel Farage na fyddai Gareth Bennett y math o berson y byddai UKIP yn "falch" o gael fel Aelod Cynulliad wedi'r etholiad ar y pumed o Fai.

Wrth siarad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru mi ddywedodd nad oedd yn ymwneud gyda'r broses o ddewis ymgeiswyr ond ychwanegodd nad oedd wedi plesio gyda'r hyn yr oedd wedi clywed yngl欧n 芒'r ymgeisydd.

Mewn cyfweliad diweddar gyda Wales Online mi gyfeiriodd Mr Bennett at ardal benodol yng Nghaerdydd gan ddweud:

"Dyna lle mae gyda ni luosogrwydd, ...gwahanol hiliau yn mynd ar nerfau ei gilydd ac yn achosi llawer o broblemau oherwydd safbwyntiau diwylliannol gwahanol, problemau sbwriel sydd yn cael ei adael ar y stryd heb ei gasglu o hyd."