Etholiad Cymru 2016: Yr Iaith Gymraeg

Yr Iaith Gymraeg

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:

  • Cynyddu defnydd yr iaith Gymraeg o fewn strwythur Dechrau'n Deg
  • Ad-drefnu cynlluniau statudol addysg i gynnwys targedau clir ac i helpu pob plentyn yng Nghymru i fod yn hyderus wrth gyfathrebu yn Gymraeg
  • Datblygu rhwydwaith o 'Bencampwyr busnes Cymraeg eu hiaith'
  • Cryfhau atebolrwydd Comisiynydd y Gymraeg drwy ei wneud yn benodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Prif addewidion:

  • Sicrhau bod polis茂au Llywodraeth Cymru yn destun asesiad effaith ar yr iaith
  • Diwygio'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
  • Sicrhau fod gan bob ysgol gynradd ac uwchradd ddigon o athrawon cymwysedig Cymraeg
  • Gwneud asesiad effaith ar iaith yn ofyniad statudol ar gyfer datblygiadau cyn caniat谩u cais cynllunio

Prif addewidion:

  • Gweithio tuag at 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
  • Creu cronfa defnydd yr iaith
  • Parhau i fuddsoddi i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd
  • Diwygio mesur yr Iaith Gymraeg i alluogi busnesau ac eraill i fuddsoddi mewn defnydd o'r iaith.

Prif addewidion:

  • Gweithredu'r gwelliannau i Gymraeg ail-iaith yn 么l argymhellion arolwg yr Athro Sioned Davies, yn cynnwys continiwm dysgu Cymraeg a thros amser, addysg Gymraeg i bawb
  • Ehangu defnydd y Gymraeg yn iaith weinyddu mewn llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus
  • Gwella addysg cyfnod sylfaen fel bod pob disgybl yn gallu siarad Cymraeg o "safon dderbyniol" erbyn saith oed
  • Gwthio i wella statws y Gymraeg ar lefelau Prydeinig ac Ewropeaidd, gan gynnwys dynodi Cymraeg yn iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Prif addewidion:

  • Mae gan bobl yr hawl i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg o addysg feithrin hyd at y coleg a'r brifysgol, yn ogystal ac yn y gweithle
  • Cynyddu cyfleoedd dysgu i blant ac oedolion
  • Rhoi mwy o ddyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus i roi gwasanaethau dwyieithog.

Prif addewidion:

  • Gwella gwasanaethau Cymraeg i drin dementia ac mewn gofal diwedd oes
  • Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Annog mynediad at ddogfennau yn yr iaith y mae rhywun yn ei ddewis, yn hytrach na rhoi gormod o bwyslais ar ddogfennau dwyieithog
  • Sicrhau bod ymdrechion i annog dwyieithrwydd rhwng Cymraeg a Saesneg yn arwain at ddysgu ieithoedd eraill, nid yn lle hynny.

Cliciwch i ddarllen mwy