麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Angharad Mair

  • Cyhoeddwyd
angharad

Y ddarlledwraig Angharad Mair sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Rhodri Owen.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Symud t欧. Tan fy mod yn dair oed roedden ni'n byw yn Llanelli, ond symud wedyn i Gaerfyrddin. Prin iawn yw'r cof o Lanelli a dwi'n teimlo mai merch o Gaerfyrddin ydw i ond mae'n braf iawn hefyd bod fy ngwaith ers rhai blynyddoedd gyda Tinopolis yn fy nhre' enedigol.

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Marc Bolan cyn symud ymlaen i Donny Osmond a Les o'r Bay City Rollers. Mae'r caneuon i gyd ar fy ff么n!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gormod i'w rhestru!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pwy sy'n cofio Angharad yn cyflwyno 'Bilidowcar'?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth wylio'r ffilm 'The Way We Were' gyda Barbara Streisand a Robert Redford. Un o'm hoff ffilmiau a daw deigryn neu ddau i'r llygad bob tro. Cefais esgus da i wylio'r ffilm eto yn ddiweddar - swotio Hanes gyda fy merch yn ei blwyddyn TGAU!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fy mreuddwyd yw bod yn daclus - ond am ryw reswm, er adduned newydd bob Calan a phenblwydd, dyw hynny byth yn digwydd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llangrannog. Dyna lle magwyd fy mam a phan yn fach byddai gwyliau bob haf gyda Mamgu a Dadcu ym Mhontgarreg gerllaw. Mae'r lle wedi newid dipyn erbyn hyn, mae'n drist gweld ambell i d欧 ag enw Saesneg ond mae'r golygfeydd godidog wrth gerdded ar hyd yr arfordir heibio i Ynys Lochtyn am draeth Cilborth a'i dywod euraidd mor ysbrydoledig ag erioed.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mharti penblwydd yn 50. Cwmni teulu, a ffrindiau hen a newydd yn ei morio hi gyda Dewi Pws a Radwm yn perfformio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Joio mas draw eto yng nghwmni Dewi Pws

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Mam. Gwraig. Cymraes.

Beth yw dy hoff lyfr?

'The Competitor Runner's Handbook' gan Bob Glover. Does dim rhaid i chi fod yn gystadleuol, ond os ydych chi'n rhedeg mae hwn yn lyfr gwych!

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Anodd dewis un - mae gen i sawl ffefryn i'w gwisgo o gwmpas y t欧 - a'r t欧 yn unig! Siwmper or-gyffyrddus sydd yn dechrau dod yn ddarnau a ph芒r o sanau cashmere pinc sy'n treulio'n reit gyflym hefyd. Dwi'n dweud wrth y g诺r ei bod hi'n compliment iddo fe mai dim ond fe (a'r plant) sy'n cael fy ngweld i'n edrych mor anrhwsiadus!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Selma' - gwych! Mwy o swotio Hanes - bechod nad oedd y math yma o adolygu ar gael pan o'n i'n 15 oed!

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Fi fy hun! Dwi wastad wedi ffansio'r glitz o set ffilm.

Dy hoff albwm?

Ar hyn o bryd, Candelas - 'Bodoli'n Ddistaw'.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Pwdin wrth gwrs! Pwdin bara menyn gyda siocled tywyll wedi toddi drwyddo wedi ei weini'n boeth gyda hufen i芒 fanila. Nefoedd!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

David Cameron - fyddai'n cyhoeddi'r newyddion annisgwyl bod y Llywodraeth am sicrhau cyllid digonol i S4C am flynyddoedd i ddod i fod yn sianel lewyrchus annibynnol fel rhan o gynllun hir dymor i sicrhau parh芒d a ffyniant pwysig i'r iaith Gymraeg. Wel, mae'n braf breuddwydio ambell waith.

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Llinos Lee

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angharad wedi bod yn bresenoldeb cyson ar 'Heno'