Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgol Gymraeg newydd sbon i Sir Benfro?
Fe allai ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn Sir Benfro gael ei hadeiladu ar Ffordd Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Bydd gofyn i gynghorwyr sir ystyried y cynllun mewn cyfarfod cyngor eithriadol fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 21 Ebrill.
Maen nhw eisoes wedi pleidleisio mewn egwyddor dros agor ysgol cyfrwng Cymraeg yn Hwlffordd.
Yn wreiddiol, roedd swyddogion y cyngor yn ystyried agor ysgol newydd ar safle ysgol Tasker Millward, ac ar 么l hynny, ar safle presennol Syr Thomas Picton.
Mae'r cynnig newydd yn awgrymu adeiladu ysgol newydd sbon ar Ffordd Llwynhelyg.
Mae'r cyngor wedi cytuno i Gyfnewid Cytundeb amodol, sy'n dibynnu ar ganiat芒d cynllunio boddhaol, a s锚l bendith y Cyngor a Llywodraeth Cymru.