Cymraeg ddim yn 'perthyn' i'r maes awyr agored

Disgrifiad o'r llun, Llyn Tegid yng Ngwersyll Yr Urdd Glan-llyn

Dyw Cymry Cymraeg ddim yn teimlo eu bod yn perthyn i'r diwydiant addysg awyr agored gan fod y maes yng Nghymru yn "ddiwylliannol Seisnig".

Dyna yw barn Arwel Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn.

Mewn erthygl i Gylchgrawn Cymru Fyw, dywedodd ei fod yn ofni nad yw'r bwlch diwylliannol rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn cau a bod hyn yn atal rhai rhag dilyn gyrfa yn y maes.

"Pan dwi wedi bod yn gweithio o fewn sefydliadau sy'n gweithio drwy gyfrwng y Saesneg mewn amgylchedd diwylliannol Cymreig, dydw i ddim yn teimlo mod i wedi integreiddio gyda'r sefydliad yn llawn," meddai.

"O siarad gyda nifer o ffrindiau sy'n hyfforddwyr Cymraeg, dydyn nhw chwaith ddim yn teimlo eu bod yn perthyn i'r gymuned awyr agored yn bersonol nac yn broffesiynol o achos y 'teimlad' diwylliannol gwahanol."

Meddai: "Yn ddiweddar cafodd un Cymro Cymraeg y dewis i weithio unai mewn canolfan hyfforddi awyr agored genedlaethol neu yng Ngwersyll Yr Urdd Glan-llyn.

"Ar 么l iddo fo ymweld 芒'r ddau safle penderfynodd weithio yng Nglan-llyn. Pan nes i ofyn be' oedd wedi dylanwadu ar ei benderfyniad, y prif ffactor oedd y teimlad diwylliannol o berthyn.

"Mewn diwydiant sy'n ddiwylliannol Seisnig, yn bersonol, dwi'n meddwl fod hyn yn un ffactor sydd wedi cyfrannu at y diffyg hyfforddwyr lleol Cymreig a Chymraeg yn y maes addysg awyr agored."

Cyffrous

Serch hyn, mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor yn dangos fod cynnydd wedi bod yn yr hyfforddwyr llawn-amser sy'n siarad Cymraeg mewn canolfannau awyr agored yng ngogledd orllewin Cymru, o 4% yn 2003, i 25% yn 2013.

Dywedodd Tracey Evans, Prif Weithredwraig y Bartneriaeth Awyr Agored yng ngogledd-orllewin Cymru, a ddaeth i fodolaeth deng mlynedd yn 么l, fod y mudiad wedi llwyddo i gael 300 o bobl ddi-waith i mewn i'r diwydiant awyr agored, gyda dros 80% o'r rhain yn siarad Cymraeg.

"'Dyn ni wedi buddsoddi 拢700,000 dros y 10 mlynedd ddiwethaf gyda gwerth 拢10 miliwn i'r economi," meddai. "Mae'r gwirfoddolwyr sydd allan yn y cymunedau werth 1.6m i ogledd Cymru bob blwyddyn ar hyn o bryd.

"Ond mae mwy o waith i'w wneud ac mae angen gwella'r fframwaith i'r prentisiaethau er mwyn sicrhau bod y ffigwr yna'n parhau i godi."

Mis diwethaf daeth aelodau o'r diwydiant at ei gilydd yn y Senedd i ar gyfer y sector.

Meddai Ms Evans: "Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i'r sector awyr agored yng Nghymru."