麻豆官网首页入口

Farage: Dewis Neil Hamilton fel arweinydd yn 'anghyfiawn'

  • Cyhoeddwyd
Neil Hamilton

Mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill wedi dweud ei fod "wedi'i siomi" wedi i ACau'r blaid ddewis Neil Hamilton fel eu harweinydd yn y Cynulliad.

Cadarnhaodd y blaid ddydd Mawrth fod Neil Hamilton wedi ei ddewis fel arweinydd y gr诺p, ar ol iddo herio Mr Gill ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Mae arweinydd UKIP yn y DU, Nigel Farage hefyd yn anhapus iawn gyda'r penderfyniad i ethol Mr Hamilton.

Dywedodd: "Dwi wedi cydweithio'n agos gyda Nathan Gill fel arweinydd y blaid yng Nghymru. Mae'n taro fi fel person gonest, ffyddlon sy'n gweithio'n galed.

''Mae cael ei wared ar 么l ymgyrch etholiadol y Cynulliad yn anghyfiawn ac yn weithred gwbl anniolchgar.

''Wrth ymddwyn fel hyn, mae UKIP hefyd yn edrych fel y pleidiau eraill y buom ni'n brwydro'n galed yn eu herbyn.''

Bu saith Aelod Cynulliad y blaid yn cyfarfod ddydd Mawrth i benderfynu pwy ddylai arwain y gr诺p, ac yn 么l Mr Gill, fe bleidleisiodd tri AC drosto, a phedwar dros Mr Hamilton.

Mae tensiwn wedi bod ym mherthynas y p芒r ers misoedd.

Dywedodd Mr Gill mewn dadl deledu fis Ebrill na fyddai wedi dewis Mr Hamilton fel ymgeisydd Cynulliad UKIP.

Fe arweiniodd hynny at wraig Mr Hamilton, Christine, yn cyhuddo Mr Gill o ymddwyn fel "cadfridog o'r drydedd radd".

'Nid yw'n teimlo'n wych'

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gill: "Mae hyn ychydig yn rhyfedd. Dim ond UKIP fyddai'n gwneud y math yma o beth, disodli rhywun a sicrhaodd ein buddugoliaeth fwyaf mewn gwleidyddiaeth ddomestig, ac yna pedwar o'r saith AC yn penderfynu fod angen rhywun arall i arwain y blaid."

Ychwanegodd: "Yn amlwg nid yw'n teimlo'n wych."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Neil Hamilton yn arwain gr诺p UKIP yn y Cynulliad, tra bod Nathan Gill yn parhau i arwain y blaid ar lefel genedlaethol

Ond dywedodd ac nid yw sefyllfa Mr Hamilton fel arweinydd y gr诺p ym Mae Caerdydd yn "dechnegol" ei wneud yn arweinydd y blaid yng Nghymru.

"Ni fyddai angen i mi fynnu hynny. Dyna realiti'r sefyllfa.

"Hoffwn ddiolch i Mark Reckless a David Rowlands am bleidleisio i mi, ond rydw i wedi fy siomi gyda Caroline Jones. Dywedodd wrtha i ei bod yn mynd i bleidleisio i mi. Dywedodd wrth Neil ei bod yn mynd i bleidleisio drosto ef hefyd. Ond Neil gafodd ei phleidlais."

'Consensws'

Ar 么l i'r blaid gadarnhau'r arweinydd, dywedodd Mr Hamilton bod y gr诺p wedi dod i "gonsensws" ac wedi "penderfynu anghofio" yr anghydfod cyn yr etholiad.

"Rydw i wedi fy newis i wneud swydd benodol i fod yn arweinydd ACau UKIP yn y Cynulliad," meddai.

"Mae gen i lawer iawn o brofiad seneddol. Rydw i wedi bod yn weinidog llywodraeth."

Ychwanegodd: "Rydw i am fanteisio ar y profiad yna i gael yr effaith fwyaf i UKIP yn ystod y pum mlynedd nesaf.

"Dwi'n meddwl y byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd yn hapus iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil Hamilton wedi cadarnhau y bydd yn cyflogi ei wraig, Christine

Dywedodd Mr Hamilton nad oedd yn rhyfedd i Nathan Gill arwain y blaid yng Nghymru ac i yntau arwain yr ACau.

Soniodd hefyd y byddai'n parhau i fyw yn yr un lleoliad am y tro, a bod "problem fawr" o ran lle i greu canolfan i'w hun oherwydd maint rhanbarth Gorllewin a Chanolbarth Cymru.

Fe fydd Mr Hamilton nawr yn ennill cyflog o 拢84,000 y flwyddyn - 拢64,000 fel AC, a thaliad o 拢13,000 am fod yn arweinydd gr诺p, yn ogystal 芒 拢1000 yn ychwanegol am bob aelod sydd gan UKIP (拢7,000).

Fe wnaeth Mr Hamilton hefyd gadarnhau y byddai'n cyflogi ei wraig, Christine Hamilton.

Dadansoddiad Daniel Davies, Uned Wleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Fe gafodd un blaid etholiad siomedig, tra bod plaid arall wedi torri tir newydd trwy ennill eu seddi cyntaf yn y Cynulliad.

Ond aelodau'r ail blaid - y blaid lwyddiannus, UKIP - yw'r rhai sydd wedi bod yn brwydro.

Doedd neb am herio Andrew RT Davies am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, er gwaethaf methiant y Tor茂aid yn yr etholiad wythnos ddiwethaf. A thra roedd e'n gwneud cyfweliadau ddydd Mawrth yngl欧n 芒'i benderfyniad i ddal ati, roedd aelodau UKIP yn paratoi am gyfarfod i ddewis arweinydd eu gr诺p nhw.

Fe ddewison nhw Neil Hamilton yn lle arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, penderfyniad fydd yn siomi Nigel Farage gan mai ef benododd Mr Gill.

Mae'n olygfa anghyffredin i weddill Aelodau'r Cynulliad.

Dyma gasgliad un aelod o staff sy'n gweithio yn y Bae: "Nawn nhw rhoi siglad i'r lle."