Prif Weinidog Cymru: Dim penodiad

Mae Aelodau'r Cynulliad ym Mae Caerdydd wedi methu dewis Prif Weinidog newydd Cymru.

Fe gafodd Carwyn Jones ei gefnogi gan ei blaid ei hun a Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac fe gafodd Leanne Wood gefnogaeth Plaid Cymru, Y Ceidwadwyr Cymreig ac UKIP.

Roedd y Cynulliad yn cwrdd am y tro cyntaf ddydd Mercher.

Fe gafodd Mr Jones a Ms Wood 29 pleidlais yr un. Nid yw'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn cael pleidleisio ar y mater hwn.

Ffynhonnell y llun, Senedd TV

Disgrifiad o'r llun, Kirsty Williams yn y Senedd wedi'r bleidlais

'Mandad'

Wedi iddi gefnogi Carwyn Jones ar gyfer swydd y Prif Weinidog, dywedodd Kirsty Williams: "Dydw i ddim wedi cael fy ailethol i'r Cynulliad i gefnogi clymblaid ffwrdd 芒 hi, sy'n cynnwys ACau UKIP - sydd ddim hyd yn oed yn cytuno 芒'i gilydd. Nid dyma fy ngwleidyddiaeth ac nid yw'n rhywbeth y byddaf yn ystyried.

"Rwyf yn siomedig bod Plaid Cymru yn meddwl fod hyn yn opsiwn posib.

"Y gwirionedd yw fod gan Lafur 29 o Aelodau Cynulliad. Felly, mae'n amlwg mai nhw sydd 芒'r mandad cryfaf gan bobl Cymru."

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru ar ddeall mai ymgais gan Blaid Cymru a'r pleidiau eraill oedd hyn i "danio ergyd" at rengoedd Llafur, gan nad oes ganddyn nhw fwyafrif.

Disgrifiad o'r llun, Carwyn Jones yn dilyn y bleidlais

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod wedi dewis "peidio ag ethol un blaid i lywodraethu Cymru gyda mwyafrif."

"Fel yr arfer, cafodd y blaid fwyaf y cyfle i gyrraedd cytundeb ar ffurfio llywodraeth a all arwain Cymru gyda chefnogaeth y mwyafrif o aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol. Gwnaethant y penderfyniad i beidio ffafrio'r opsiwn hwnnw, ac nid oeddent yn barod i roi mwy o amser i'r broses negodi.

"O ganlyniad, dilynodd grwp Plaid Cymru y drefn Seneddol arferol gan enwebu Leanne Wood yn Brif Weinidog. Cafodd Carwyn Jones ei hysbysu o'r penderfyniad ddoe. Ers hynny, a hyd y gwyddai Plaid Cymru, nid oes unrhyw drafodaethau, cytundebau na bargeinion ffurfiol wedi eu holrhain rhwng unrhyw bleidiau.

"Cyfrifoldeb y pleidiau nawr yw i drafod y mater hwn ymhellach er mwyn ceisio sicrhau'r canlyniad gorau posib i Gymru." ychwanegodd y llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Senedd TV

Disgrifiad o'r llun, Rhun ap Iorwerth A.C. gyda Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru

Dywedodd Andrew R.T. Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd gan y Blaid Lafur "hawl dwyfol" i gredu y byddai Carwyn Jones yn cael ei ddewis fel prif weinidog yn dilyn y bleidlais.

"Mae fyny i aelodau newydd y Cynulliad i ymchwilio, ag i drafod y ffordd orau ymlaen i'r genedl Gymreig, sydd wedi disgyn tu 么l i weddill y DU am yn rhy hir.

"Yn sicr rwy'n teimlo awydd am fath newydd o wleidyddiaeth Gymreig, ac o gydweithio, fe fyddwn yn croesawu trafodaethau pellach er mwyn adeiladu ar y rhai oedd yn gyfrifol am arwain y bleidlais heddiw."

Yn y cyfamser dywedodd arweinydd gr诺p UKIP yn y Senedd, Neil Hamilton, fod Plaid Cymru wedi cysylltu gyda'i blaid ddydd Llun i gefnogi Leanne Wood yn y bleidlais.

Wrth roi ymateb ar ran Llafur, dywedodd Alun Davies, AC Blaenau Gwent fod gan ei blaid 'fandad clir' i lywodraethu.

"Roedd pobl yn disgwyl i ni dderbyn yr hawl i ffurfio llywodraeth, ac i bleidiau eraill ein gwneud yn atebol ar y ffordd yr ydym yn perfformio mewn grym," meddai.

Wrth feirniadu Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr, ychwanegodd: "Beth ydym wedi ei weld heddiw yw cytundeb brwnt rhwng dwy blaid sy'n brifo yn dilyn colli'r etholiad, ac mae UKIP yn mwynhau'r daith."

Arweinwyr

Mewn pleidleisiau blaenorol, mae gwrthbleidiau wedi cynnig eu harweinwyr ar gyfer eu hethol fel arwydd symbolaidd, ond mae'n anarferol i aelodau mwy nag un blaid i gefnogi arweinydd plaid arall.

Mae gan Aelodau'r Cynulliad 28 diwrnod i ddewis Prif Weinidog newydd o ddyddiad yr etholiad, fyddai'n golygu penderfyniad erbyn 2 Mehefin.

Dadansoddiad Tomos Livingstone, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru:

Wel, croeso i'r pumed Cynulliad.

Ymgais oedd hon gan y gwrthbleidiau i atgoffa'r blaid Lafur o un ffaith syml - does dim mwyafrif gan y blaid ym Mae Caerdydd.

Os y bwriad oedd codi ofn ar Lafur, mae Plaid Cymru wedi llwyddo; wnaeth neb ragweld y byddai UKIP a'r Ceidwadwyr yn fodlon cefnogi enwebiad Leanne Wood fel Prif Weinidog.

Yn wir, pe bai Kirsty Williams heb bleidleisio i Carwyn Jones, Ms Wood fyddai'n Brif Weinidog heno.

Y cwestiwn nesaf yw a all Lafur gynnig unrhywbeth i un o'r gwrthbleidiau er mwyn clirio'r ffordd i Carwyn Jones unwaith eto? Os na ddigwydd hynny erbyn Mehefin 2ail - credwch neu beidio - mae'r pwer gan yr Ysgrifennydd Gwladol i alw etholiadau newydd.