麻豆官网首页入口

Traean lleoedd hyfforddi athrawon uwchradd yn wag

  • Cyhoeddwyd
athrawon

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos na chafodd traean y lleoedd i hyfforddi athrawon ysgolion uwchradd yng Nghymru eu llenwi y llynedd.

Yn 么l un undeb athrawon, mae'n dangos fod Cymru'n wynebu problem recriwtio athrawon.

553 o fyfyrwyr ddechreuodd ar gwrs hyfforddi athrawon uwchradd ym mis Medi 2015 - 880 yw targed Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod nifer y lleoedd gwag yn dal yn "isel iawn".

Yn 么l Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC, mae'r ffigyrau'n achos pryder: "Mae'r ffigyrau'n ddramatig ar gyfer yr uwchradd yn arbennig. Ro'n nhw wedi tan recriwtio yn sylweddol y llynedd, ond mae'n fwy dramatig byth eleni, felly mae'n ymddangos fel patrwm, ac mae hynny'n bendant yn destun gofid i ni.

"Mae'r targedau eu hunain wedi bod yn gostwng dros gyfnod, felly os nad y'n ni hyd yn oed yn gallu cyrraedd y targedau, mae hynny'n debygol o fod yn broblem ar gyfer ysgolion."

Un ffactor y mae'r undeb yn ei feio am y gostyngiad yw llwyth gwaith gormodol.

Tair canolfan dan reolaeth pum prifysgol sydd ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant athrawon yng Nghymru.

Bob blwyddyn, mae'r canolfanau'n cael targedau recriwtio hyfforddi athrawon.

Y targed a gafodd ei osod ar gyfer hyfforddi athrawon uwchradd oedd yn dechrau ym mis Medi 2015 oedd 880, ond mae ffigyrau gan Gyngor Addysg Uwch Cymru (HEFCW) yn dangos mai 553 o'r lleoedd gafodd eu llenwi - 37% yn is na'r targed.

Fe welwyd gostyngiad bach yn nifer y rhai gafodd eu recriwtio ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon cynradd.

Mae disgwyl i newidiadau i hyfforddiant athrawon yng Nghymru gael eu cyflwyno ym mis Medi 2018.

'Dathlu pethau positif'

Yn 么l y Dr Dylan Jones, Deon Addysg a Chymunedau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae angen canolbwyntio ar positif er mwyn denu mwy i'r proffesiwn: "Mae angen i ni ystyried naratif gwahanol sydd wedi bod hyd yn hyn fel bod ni'n dathlu pa mor arbennig yw'r proffesiwn o addysgu ac mae'n rhaid i ni wneud yn si诺r bod y naratif yma yn cael ei ledu. Hyd yn hyn negyddiaeth sydd wedi bod."

"Mae 'na gymaint o bethau positif, cyffrous gydag adolygiad i'r cwricilwm, adolygiadau i hyfforddi athrawon. Dw i'n credu dylen ni fynd ati nawr i ddathlu'r elfen gyffrous hynny fel bod ni'n cael y bobl yna yn 么l, i wyrdroi'r negyddiaeth sydd wedi bod."

Disgrifiad,

Yn 么l Dr Dylan Jones mae angen dathlu'r pethau positif yn y byd addysg

'Codi statws y proffesiwn'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae graddfa'r lleoedd dysgu gwag yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau'n isel iawn, ac rydym eisiau gwneud yn siwr y bydd yn hyn yn parhau wrth i ni ymdrechu i wella safonau a chodi statws y proffesiwn."

"Rydym wedi ein hymrwymo i recriwtio unigolion sydd 芒'r sgiliau, y cymwysterau a'r ymrwymiad cywir ar gyfer y proffesiwn, a dyna pam fod yna gynlluniau cymhelliant hyfforddi ar gael yng Nghymru i annog graddedigion sy'n perfformio'n dda i ystyried gyrfa fel athro."