麻豆官网首页入口

Gill: Neil Hamilton wedi 'atgyfnerthu stereoteip' UKIP

  • Cyhoeddwyd
Neil Hamilton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil Hamilton yn gyn aelod seneddol Ceidwadol

Fe wnaeth arweinydd gr诺p UKIP yn y Cynulliad atgyfnerthu stereoteip am y blaid pan ddywedodd bod dwy AC benywaidd yn rhan o "harem" Carwyn Jones, yn 么l cydweithiwr.

Dywedodd Nathan Gill, sy'n arwain y blaid yng Nghymru, nad oedd sylwadau Neil Hamilton yn addas.

Fe wnaeth sylwadau Mr Hamilton am yr ACau Kirsty Williams a Leanne Wood achosi ffrae.

Ychwanegodd Mr Gill bod angen i aelodau'r blaid ymddwyn yn "broffesiynol".

Sylwadau 'diangen'

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedodd Mr Gill bod y blaid eisiau creu newid yn y Cynulliad, ond nad sylwadau fel rhai "diangen" Mr Hamilton oedd y ffordd orau o wneud hynny.

Pan ofynnodd Vaughan Roderick os oedd Mr Hamilton wedi atgyfnerthu stereoteip am y blaid, cytunodd Mr Gill, gan ddweud bod angen i aelodau fod yn broffesiynol er mwyn "gwneud y swydd i'r bobl sydd wedi pleidleisio drostom ni".

Ychwanegodd bod angen "atgyfnerthu darlun positif UKIP" i'r bobl sydd eisiau pleidleisio dros y blaid "ond rydyn ni'n parhau i roi rhesymau iddyn nhw beidio".

Daeth sylwadau Mr Hamilton yn ystod ei araith gyntaf yn y Cynulliad, pan ddywedodd bod Ms Williams a Ms Wood wedi gwneud eu hunain yn rhan o "harem" Carwyn Jones drwy ei gefnogi fel y Prif Weinidog.