麻豆官网首页入口

Swyddog i ddatblygu'r Urdd ym Mrycheiniog a Maesyfed

  • Cyhoeddwyd
rhiannon walker
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhiannon Walker yn dechrau yn ei swydd newydd yr wythnos hon

Wedi i'r Urdd gyhoeddi y bydd Eisteddfod yr Urdd yn ymweld 芒 Brycheiniog a Maesyfed yn 2018, mae'r mudiad wedi penodi swyddog i ddatblygu aelodaeth yn yr ardal am y tro cynta'.

Yn 么l yr Urdd, dyw aelodaeth yno ddim wedi bod yn gryf yn hanesyddol, ond mae'r mudiad yn gobeithio y bydd Rhiannon Walker - sydd eisoes wedi gweithio fel swyddog yng Nghymoedd Morgannwg - yn gallu newid hynny.

Dywedodd Rhiannon mai'r nod yn gyntaf fydd "sicrhau fod pob ysgol yn yr ardal yn gwybod am weithgareddau a chyfleon yr Urdd", er mwyn annog plant o bob cefndir i ymuno.

Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld 芒 Brycheiniog a Maesyfed ers 1978, a bydd yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.