麻豆官网首页入口

Cwis: Cofio'r Cynulliad?

  • Cyhoeddwyd

Mae'r pumed Cynulliad yn cael ei agor yn swyddogol ar Ddydd Mawrth, 7 Mehefin. Faint ydych chi'n ei gofio am hynt a helynt gwleidyddiaeth a gwleidyddion ym Mae Caerdydd ers sefydlu'r Cynulliad cyntaf yn 1999?

1. "Bore da, ac mae hi'n fore da iawn yng Nghymru" - geiriau pwy?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alun Michael

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rod Richards

3. Rod Richards oedd Arweinydd cyntaf y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ond fe ymddiswyddodd lai na thri mis fewn i'r tymor cyntaf oherwydd honiad yn ei erbyn. Beth oedd yr honiad?

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

4. Arddull areithio pwy oedd fel "robot yn dynwared Glenda Jackson yn chwarae'r Frenhines Victoria" yn 么l Martin Shipton o'r Western Mail?

6. "Be ydy'r pwrpas i mi godi yn y bore, brwsio fy nannedd, ymolchi ac eillio er mwyn dod i weithio mewn lle fel hyn?" Pwy gollodd amynedd gyda'i gyd-aelodau yn 2003. Pam?

7. Fe agorodd adeilad newydd y Cynulliad ei ddrysau ar Ddydd G诺yl Dewi yn 2006. Yn 1997 roedd disgwyl iddo gostio 拢12 miliwn. Beth oedd y gost mewn gwirionedd?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhodri Glyn Thomas

Disgrifiad o鈥檙 llun,

John Dixon

9. Mi gafodd dau AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol eu hatal o'r siambr ar 么l etholiad 2011. Bu'n rhaid i John Dixon adael yn barhaol - ond pwy gafodd gadw ei sedd?

Sut hwyl gawsoch chi?

0-2 Dych chi wedi datganoli'ch hun o wleidyddiaeth Cymru

3-5 Dal i fod yn ansicr o'r gwahaniaeth rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru

5-7 Ddim yn gwrando digon a'r 'O'r Bae'

8-9 Awydd bod yn ymgeisydd ar gyfer y chweched Cynulliad?

10 Bydd Vaughan Roderick yn crynu yn ei sgidie!