麻豆官网首页入口

Mark Drakeford eisiau cynllun yn ei le erbyn yr hydref

  • Cyhoeddwyd
Mark D

Mae Ysgrifennydd newydd Llywodraeth Leol wedi dweud wrth raglen Sunday Politics Wales ei fod eisiau cynllun newydd yn ei le ar gyfer cynghorau Cymru erbyn yr hydref.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers dechrau ei swydd mae Mark Drakeford hefyd wedi cadarnhau fod y syniad o leihau'r 22 o awdurdodau lleol i wyth neu naw wedi mynd yn angof erbyn hyn.

Mae wedi dweud nad yw wedi "ymrwymo i unrhyw ddatrysiad penodol" a bod angen "sgwrs ehangach" ar y mater.

Mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi dweud bod hi'n amser "symud ymlaen" o'r drafodaeth yngl欧n ag uno cynghorau ac edrych am ffyrdd eraill i weithio yn fwy effeithiol.

Daw sylwadau'r cynghorydd Bob Wellington flwyddyn ar 么l i'r cyn Weinidog Llywodraeth Leol, Leighton Andrews ddweud ei fod eisiau lleihau nifer y cynghorau. Dyw Mr Andrews bellach ddim yn Aelod Cynulliad ar 么l colli ei sedd yn yr etholiad ym mis Mai.

Ni i benderfynu

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi dweud yn ddiweddar bod angen edrych eto ar y cynlluniau i weld os fyddai yn ddigon o gefnogaeth ymhlith y pleidiau gwleidyddol.

Meddai'r Cynghorydd Wellington: "Dyw'r map ddim yn bodoli bellach. Nawr mi ddylen ni uno gyda'n gilydd ac edrych am ddatrysiadau newydd. Dw i'n meddwl mai'r bobl gorau i benderfynu'r llwybr ymlaen o fewn llywodraeth leol yw cynrychiolwyr llywodraeth leol.

Felly gadewch i ni anghofio am y gorffennol a symud ymlaen gyda syniadau newydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai cynghorau yn cydweithio'n barod

Mae'r rhaglen hefyd wedi bod yn siarad gydag arweinwyr rhai o'r cynghorau mwyaf yng Nghymru yngl欧n 芒'r ffordd maen nhw'n cydweithio'n barod ar lefel rhanbarthol.

Dywedodd arweinydd Abertawe, Rob Stewart nad ydy o'n gwrthwynebu uno ond "mae'n rhaid i'r uno fod am y rhesymau cywir."

Mae hefyd wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Ysgrifennydd newydd: "Roedd Leighton yn gymeriad gwahanol i Mark. Mi oedd e'n edrych ar y peth mewn ffordd wahanol.

Mae Mark yn ddyn cymodol. Mi ydyn ni'n teimlo gallwn ni siarad efo fo mewn manylder a dw i'n meddwl y bydd gyda ni berthynas ardderchog efo fo."

Sunday Politics, 麻豆官网首页入口 Wales 11.00 12 Mehefin