麻豆官网首页入口

Beth yw Gorsedd y Beirdd?

  • Cyhoeddwyd

Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd (neu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.)

Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd. Gelwir aelodau'r Orsedd yn dderwyddon ac mae gan bob un ei enw barddol unigryw ei hun.

Cliciwch o gwmpas y llun isod er mwy darganfod mwy.

INTERACTIVE
  • Meini'r Orsedd

    ×

    Lluniwyd y cynllun manwl yma o Gylch yr Orsedd ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae 12 maen yn ffurfio si芒p cylch. Y garreg fawr wastad yng nghanol y cylch yw'r Maen Llog, a dyma lwyfan yr Archdderwydd yn ystod y seremon茂au urddo.

  • Yr Archdderwydd

    ×

    Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Mae鈥檔 cael ei ethol gan yr Orsedd am gyfnod o dair blynedd. Dim ond Prifeirdd a Phrif Lenorion all ddal swydd archdderwydd. Mae'n gyfrifol am arwain seremon茂au'r Orsedd gan gynnwys seremon茂au'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.

  • Y Wisg Wen

    ×

    Enillwyr prif wobrau鈥檙 Eisteddfod sy鈥檔 gwisgo鈥檙 wisg wen. Gallwch adnabod enillwyr y Gadair neu鈥檙 Goron gan eu bod yn gwisgo llawryf am eu penwisg.

  • Y Wisg Werdd

    ×

    Mae鈥檙 aelodau sy鈥檔 gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiad. Mae enillwyr cadair a choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gwisgo鈥檙 wisg werdd.

  • Y Wisg Las

    ×

    Mae鈥檙 wisg las ar gyfer rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i鈥檞 bro neu i鈥檙 genedl a thrwy anrhydedd ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth neu鈥檙 Cyfryngau.

  • Morwyn y Fro a'r Flodeuged

    ×

    Tusw o flodau'r maes sy鈥檔 symbol o dir a phridd Cymru yw鈥檙 Flodeuged. Mae merch ifanc o fro'r Eisteddfod yn ei chyflwyno i'r Archdderwydd fel symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod.

  • Y Ddawns Flodau

    ×

    Dyma un o ddefodau mwyaf poblogaidd y Brifwyl. Mae鈥檙 ddawns yn cyfleu casglu blodau鈥檙 maes ac yn cael ei pherfformio gan ferched ysgol lleol. Cyfunir y ddawns gyda chyflwyniad y Flodeuged wrth i ddwy o'r dawnswyr ychwanegu'u blodau nhw at y tusw.

  • Y Corn Gwlad

    ×

    Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan bwysig o ddefodaeth yr Orsedd ers yr 1860au. Gallwch glywed y ffanffer cyfarwydd pan mae enillwyr prif wobrau鈥檙 Eisteddfod yn cael eu galw i鈥檙 llwyfan.

  • Mam y Fro a'r Corn Hirlas

    ×

    Yn ei chlogyn coch hardd a phenwisg o l锚s aur, un o famau bro鈥檙 Eisteddfod sy'n cyflwyno鈥檙 Corn Hirlas i鈥檙 Archdderwydd fel symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd.

  • Ceidwad Y Cledd

    ×

    Mae鈥檙 cleddyf yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremon茂au'r Eisteddfod. Ceidwad y Cledd sy鈥檔 gofalu ar 么l y Cleddyf. Gan ei fod yn gleddyf heddwch, nid yw byth yn cael ei ddadweinio鈥檔 llwyr. Sylwch hefyd mai wrth y llafn y caiff ei ddal yn hytrach na鈥檙 carn.

Cychwyn yr Orsedd

Ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain, y sefydlwyd yr orsedd i gychwyn yn 1792 gan 诺r o'r enw Iolo Morganwg a oedd yn awyddus i roi gwybod i'r byd bod na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y Cymry a'r diwylliant Celtaidd.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif y cysylltwyd Gorsedd y Beirdd yn swyddogol 芒'r Eisteddfod a hynny mewn Eisteddfod yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae'r cysylltiad yn parhau hyd heddiw.

Cylch yr Orsedd

Gwelir Cylch yr Orsedd, sef cylch o feini, mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld 芒'r dref neu'r ardal honno. Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.

Enwogion yr yr Orsedd

Dros y blynyddoedd, mae nifer o enwogion wedi eu hurddo i'r orsedd. Yn 1946, cafodd y Frenhines Elizabeth II ei hurddo i'r wisg werdd. Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r canlynol wedi eu hurddo: y cyflwynydd radio Huw Stephens, y gantores Caryl Parry Jones, y s锚r Hollywood Ioan Griffiths a Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, yr athletwraig Tanni Grey-Thompson, y cogydd a'r cyflwynydd teledu Bryn Williams, cyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams a'r Prif Weinidog Carwyn Jones.