Beth yw Gorsedd y Beirdd?

Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd (neu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.)

Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd. Gelwir aelodau'r Orsedd yn dderwyddon ac mae gan bob un ei enw barddol unigryw ei hun.

Cliciwch o gwmpas y llun isod er mwy darganfod mwy.

Cychwyn yr Orsedd

Ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain, y sefydlwyd yr orsedd i gychwyn yn 1792 gan 诺r o'r enw Iolo Morganwg a oedd yn awyddus i roi gwybod i'r byd bod na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y Cymry a'r diwylliant Celtaidd.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif y cysylltwyd Gorsedd y Beirdd yn swyddogol 芒'r Eisteddfod a hynny mewn Eisteddfod yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae'r cysylltiad yn parhau hyd heddiw.

Cylch yr Orsedd

Gwelir Cylch yr Orsedd, sef cylch o feini, mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld 芒'r dref neu'r ardal honno. Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.

Enwogion yr yr Orsedd

Dros y blynyddoedd, mae nifer o enwogion wedi eu hurddo i'r orsedd. Yn 1946, cafodd y Frenhines Elizabeth II ei hurddo i'r wisg werdd. Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r canlynol wedi eu hurddo: y cyflwynydd radio Huw Stephens, y gantores Caryl Parry Jones, y s锚r Hollywood Ioan Griffiths a Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, yr athletwraig Tanni Grey-Thompson, y cogydd a'r cyflwynydd teledu Bryn Williams, cyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams a'r Prif Weinidog Carwyn Jones.