Ateb y Galw: Bethan Gwanas

Yr awdures Bethan Gwanas sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon ar ôl iddi hi gael ei henwebu gan Leni Hatcher yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Taflu malwen i mewn i afon yn y Gwanas ond difaru f'enaid wedyn ac isio mynd mewn i'w achub. Ches i ddim.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Yn anffodus, Donny Osmond. Ond ar ôl sylweddoli nad oedd hwnnw'n ddigon cŵl, posteri Marc Bolan aeth i fyny yn ei le o yn o handi.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na sawl stori na fedra i eu rhoi ar ddu a gwyn byth. Ond mi wnai rannu hon: pan yn cyfweld arlunydd â nam ar eu lleferydd rhyw dro, mi wnes i gamddeall be ddywedon nhw. "What? People think your art is crap?" medda fi. "No, they think my art is craft." Oooo…

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n crio ar ddim, dwi rêl babi. Llyfrau, ffilmiau, canlyniad refferendwm - bob dim. Ond y tro diwethaf oedd wrth wylio ffilm fer ar Facebook am fywyd ci a hwnnw'n marw yn y diwedd. Roedd fy ngor-nith 9 oed yn ei wylio yr un pryd a doedd hi methu credu ei llygaid: "Anti Bethan? Ti'n crio?!" Doedd yr un deigryn yn ei llygaid hi, wrth gwrs. Ond ro'n i angen kitchen roll.

Ffynhonnell y llun, S4C

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes. Dwi'n fler. Yn lle cadw fy ngwaith papur yn drefnus mewn cwpwrdd ffeilio, dwi jest yn taflu bob dim ar y soffa neu ar y bwrdd bwyd. Gan amlaf, mae'n anodd dod o hyd i le i roi plât.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llynnoedd Cregennan, y lle mwya rhamantus a hyfryd yn y byd. Mi wnes i syrthio mewn cariad yno, rhyw noson serog, flynyddoedd yn ôl.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Un o'r partïon yn Nigeria efo llwyth o wirfoddolwyr VSO eraill a phobl leol yn yr 1980au, siŵr o fod. Dawnsio anhygoel i fiwsig Bob Marley a Michael Jackson drwy'r nos (ro'n i'n ifanc a heini bryd hynny) efo criw o bobl hyfryd a bwydiach o bob math a llwyth o gwrw Star oedd yn cadw'n rhyfeddol o oer â chysidro'r gwres o dros 40°.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Brwdfrydig, prysur, arthritig.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy siaced feicio binc llachar. Dwi'n beicio efo'r ci bob dydd, ym mhob tywydd a dwi isio i'r ceir fedru ngweld i.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Does 'na'm lle i'r siaced feicio binc ar lwyfan 'Noson Lawen

Beth yw dy hoff lyfr?

'Awst yn Anogia', Gareth F. Williams

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Yn y pictiwrs? Dwi'm wedi bod ers oes - maen nhw i gyd yn golygu teithio neu bod yn anghyfforddus yn rhywle heb ddigon o le i ymestyn coesau clec. Ond mi wnes i fwynhau Big Hero 6 yn NhÅ· Siamas yn ddiweddar yn ofnadwy. A do, mi wnes i grio.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Ers gwylio Kate Winslet yn dringo ac abseilio efo Bear Grylls ar raglen deledu, hi, yn bendant. Fyddai ganddi ddim ofn gwneud y pethau hanner call a dwl dwi wedi eu gwneud dros y blynyddoedd. A dwi'n siŵr y byddai hi'n gallu dysgu Cymraeg mewn dim.

Dy hoff albwm?

'Legend' gan Bob Marley

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf, unrhyw beth efo bwyd môr a leim a capers a rocket - langoustines! Ia, langoustines ffresh o'r môr. Ges i ffit biws pan ddeallais i mai langoustines ydi scampi - pam fod raid i Brydain gladdu blas bob dim mewn batter a saim?

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ashima Shiraishi, y ddringwraig orau yn y byd meddan nhw. Dim ond 15 oed ydi hi, ond mae hi'n ysgafn a ffit a chry a'i chymalau yn amlwg yn gweithio'n berffaith - yn wahanol i mi.

Ges i glun newydd llynedd ond aeth pethau o le a rwan mae'r glun arall a'r ddwy benglin yn sgrechian yn ddyddiol (canlyniad anaf rygbi ers talwm). Mi rown i'r byd i gael hedfan i fyny'r creigiau fel Ashima. Dwi wir yn colli'r wefr o fod allan ar y creigiau a'r mynyddoedd.

Disgrifiad o'r llun, Y ddringwraig Ashima Shirasi sy'n ysbrydoli Bethan Gwanas

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Gareth F Williams