Sylwadau am Leanne Wood: Carchar am 12 wythnos

Mae dyn wedi ei garcharu am 12 wythnos wedi iddo wneud sylwadau sarhaus am arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ar wefan Twitter.

Fe wnaeth David Begley, 47 oed o Orseinon, Abertawe, y sylwadau tra oedd Ms Wood yn ymddangos ar ddadl deledu am y refferendwm Ewropeaidd.

Fe gyfaddefodd Begley, sy'n hyrwyddwr cerddoriaeth ac yn droellwr, anfon y negeseuon.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener.

Roedd Ms Wood yn cynrychioli'r ymgyrch dros Aros yn yr UE.

Dywedodd Stephen Harrett ar ran yr amddiffyniad fod Begley wedi anfon y negeseuon "heb feddwl".