Parch yn y Ffrinj

Mae hi'n gyfnod G诺yl Ffrinj Caeredin - cyfnod sy'n gweld miloedd yn heidio i Gaeredin i weld dram芒u, dawnsio, comedi a chanu bob blwyddyn.

Eto eleni, mae nifer o Gymry yn perfformio yno, ac yn eu plith, mae'r actores Carys Eleri - wyneb cyfarwydd i ni, fel y Parch Myfanwy Elfed yn y gyfres 'Parch' ar S4C. Mae hi'n perfformio yn y ddrama 'Yuri' yn yr 诺yl - drama sydd wedi derbyn adolygiadau rhagorol.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo Carys yng nghanol ei phrysurdeb:

O'r llwyfan...

"Dwi erioed wedi perfformio yn y Ffrinj o'r blaen ond mae'n mynd yn dda iawn. Mae'n rili anodd gan ei fod e'n sioe bob nos a dydy'n slot ni ddim tan 10.10pm. Cyn i ni gyrraedd, o'n i'n meddwl 'sa fe'n slot gr锚t - byddai'r acts mawr i gyd drosodd a bydd pobl yn dod i mewn. Ond mae'r amser yn anodd yn gorfforol - dydyn ni ddim yn gadael y theatr tan rhyw hanner nos, ac wedyn ti'n aros i siarad 芒 phobl - fel arfer, rydyn ni'n 么l yn y fflat rhyw 2 neu 3 o'r gloch y bore.

"Y diwrnod wedyn, wrth gwrs, mae'n rhaid cysgu ac edrych ar 么l ein hunain. Rydyn ni'n cael gweld sioeau eraill sy'n cael eu cynnal yn yr un theatr 芒 ni am ddim, sydd yn gr锚t ac mae'r cwmn茂oedd eraill o Gymru i gyd yn mynd i gefnogi ei gilydd.

"Mae 'Yuri' wedi ei chyfieithu o'r Ffrangeg, a pherfformion ni hi yn Gymraeg y llynedd - ac mewn ffordd, roedd hi'n gweithio'n well yn Gymraeg, gan ei bod hi'n ddrama ac yn sefyllfa mor abs岷價d a shocking, felly roedd clywed hyn i gyd yn Gymraeg yn ychwanegu haen arall o gomedi iddi.

"Roedden ni wedi gobeithio ei pherfformio yn ddwyieithog yn y Ffrinj, ond doedd y gyllideb ddim yno i ddarparu is-deitlau a dim amser i weithio mas pa rannau fyddai'n Gymraeg a pha rannau fyddai'n Saesneg. Ond er fod y ddrama yn Saesneg, dwi'n defnyddio'r Gymraeg i groesawu'r gynulleidfa i'n 'cartref' ac yn defnyddio 'chydig o Gymraeg gydol y perfformiad.

Ffynhonnell y llun, August 012

Disgrifiad o'r llun, Carys yn 'Yuri' - drama am fachgen sy'n ymddangos yn annisgwyl ym mywydau cwpl sydd heb blant

"Byddwn ni wedi gwneud rhyw 23 o berfformiadau erbyn diwedd y cyfnod - ac er mod i'n mwynhau, mae bod yma wedi bod yn anodd. Rydyn ni'n cael 10 munud i osod y llwyfan, actio, yna 10 munud i lanhau'r llwyfan (a rydyn ni wedi strywio'r set yn ystod y perfformiad!) ar gyfer y cwmni nesa' sy'n perfformio, sy'n 'chydig o farathon.

"Mae'r llwyfan yn hollol wahanol i beth rydyn ni wedi arfer ag e - a gan fod sioeau ymlaen drwy'r dydd, doeddet ti ddim yn medru mynd i mewn i gael rihyrsal ymlaen llaw. Felly ro' ti'n gorfod dychmygu sut fyddai e, cyn mynd i wneud sioe o flaen pobl! Expect the unexpected, fel ma nhw'n gweud!"

...i'r sgrin...

Roedd Carys hefyd yn hynod brysur cyn ei hamser yng Nghaeredin, wrth iddi ffilmio ail gyfres Parch', sy'n dod i'n sgriniau fis Medi. Mae hi'n chwarae'r brif ran, y ficer Myfanwy Elfed:

"Mae'n waith caled, bod yn brif gymeriad, a ddim wir yn rhannu'r prif stori 'da neb. Doedd amserlen ffilmio eleni ddim mor intense 芒'r llynedd ond mae'n ddarn emosiynol, sy'n gallu bod yn flinedig. Ond mae'r criw a'r cast yn hyfryd, ac rydyn ni'n cael gymaint o sbort ar y set, ac roedd hi'n bleser cael ei wneud e 'to.

"Dwi erioed wedi gwneud ail gyfres o'r blaen. Mae'n od, 'nes i 'Yuri' jest ar 么l 'Parch' y flwyddyn diwetha', ac eleni, rydw i'n gwneud y ddau yr un pryd eto. A dwi byth wedi gwneud hynny o'r blaen - byth wedi mynd yn 么l at yr un cymeriad eto. Dwi wastad yn cau'r drws ar un peth a symud ymlaen i rywbeth gwahanol, felly mae wedi bod yn sialens yn ei hunan, ond dwi wedi mwynhau.

"O'n i'n gwybod y byddai pobl yn dwli ar y gyfres gyntaf, o ddarllen y sgript am y tro cyntaf, achos dyma oedd wedi'n hala fi fwyaf cyffrous ers sbel. O'n i'n gallu gweld drwy ddarllen ambell i olygfa yn unig pa mor wych oedd e, ac yn gallu gweld y byddai'n llwyddiannus. Ac o'n i mor falch bod yna hyd yn oed posibilrwydd bod yn rhan ohono fe, heb s么n am gael y prif ran!

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mae bywyd Myfanwy yn dra gwahanol erbyn hyn

"Mae Fflur (Dafydd) wedi gwneud job anhygoel. Y gyfres gyntaf o 'Parch' oedd y gyfres deledu gyntaf iddi ei hysgrifennu, felly roedd hi'n gorfod profi ei hunan, yn arbennig o ran poblogrwydd y gynulleidfa.

"Roedd e mor hyfryd gwybod ein bod ni wedi cael comisiwn ar gyfer yr ail gyfres, er mod i wir wedi bod yn pendroni sut oedd modd symud 'mlaen o ddiwedd y gyfres gyntaf! (Wna i ddim gweud mwy, rhag sbwylio pethe, ond mae'n wir i 'weud fod bywyd Myfanwy yn wahanol iawn erbyn hyn!)

"Dwi'n edrych 'mlaen i'w weld e hefyd - dwi ddim wedi gwneud eto - dangoson nhw'r bennod gynta yn y Steddfod, ond o'n i yng Nghaeredin yn barod!"

...a thu 么l i'r meic

Mae Carys yn amlwg yn actores hynod amryddawn ond mae hi hefyd yn gantores:

"Dwi ddim wedi canu gymaint 芒 hynny yn ddiweddar - fues i'n canu efo Charlotte Church's Late Night Pop Dungeon yn Glastonbury, a byddai'n gweithio ar sioe gerdd fawr mae fy ffrind i'n ei datblygu ar gyfer Canolfan y Mileniwm yn fuan. Mae'n ddiddorol dod yn 么l at rywbeth dwi heb ei wneud ers dipyn."

Disgrifiad o'r llun, Mae Carys yn canu ym mand ei chyfaill Charlotte Church

Ond nid yw actio a chanu yn ddigon iddi ac mae hi'n hoffi cadw ei meddwl yn chwim:

"'Swn i'n gallu, 'swn i'n quantum physicist neu neuroscientist. Mae gwyddoniaeth wir yn fy niddori i, a dwi'n darllen 'New Scientist' bob wythnos ers ryw bum mlynedd. Mae mr锚n i'n hoffi mynd i gyfeiriadau gwahanol, a dwi jest yn hoffi dysgu pethau newydd.

"Mae'n si诺r mai dyna pam mod i'n hoffi gwneud gymaint o bethau gwahanol wrth berfformio - dwi'n hoffi arbrofi a thrio pethau newydd o hyd!"

Mae 'Yuri' yn Underbelly, Caeredin tan 28 Awst

Bydd ail gyfres 'Parch' ar S4C nos Sul, 4 Medi am 21.00