Nathan Gill yn gadael gr诺p UKIP yn y Cynulliad

Mae Nathan Gill wedi dweud y bydd yn gadael y gr诺p UKIP yn y Cynulliad ac yn cymryd ei sedd fel AC annibynnol dros Ogledd Cymru.

Er hynny bydd yn parhau yn ei swydd fel arweinydd y blaid yng Nghymru yn ogystal 芒 bod yn aelod o Senedd Ewrop.

Mae ffrae fewnol wedi bod yn berwi o fewn UKIP yn dilyn penderfyniad Mr Gill i wneud dwy swydd.

Roedd ymgais wedi bod i'w ddiarddel o'r gr诺p yn y Senedd os nad oedd yn rhoi'r gorau i un o'i swyddi etholedig.

'Gwastraffu amser'

Dywedodd Mr Gill: "Wedi llawer o bwyso a mesur, rwyf wedi penderfynu gadael y gr诺p UKIP yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan gymryd fy sedd fel aelod annibynnol.

"Mae gormod o amser wedi cael ei wastraffu yn dadlau yn fewnol dros faterion na all gael eu datrys ac mae wedi tynnu ein sylw oddi ar y gwaith rydym wedi cael ein hethol i'w wneud.

"Rwy'n parhau i fod yn arweinydd UKIP yng Nghymru ac rwyf wedi ymrwymo i wasanaethu fy etholwyr."

Galw am ymddiswyddiad

Wrth ymateb fe ddywedodd Neil Hamilton, arweinydd gr诺p UKIP yn y Cynulliad: "Dwi heb gael cadarnhad swyddogol, mae'n rhaid bod ei lythyr wedi mynd ar goll yn y post.

"Fe wnawn ein gorau i oroesi hebddo. Dydyn ni ddim yn ei weld ryw lawer yn y Cynulliad felly dwi ddim yn credu y gwelwn ni lawer o wahaniaeth."

Yn hwyrach prynhawn ddydd Mercher fe ychwanegodd Mr Hamilton y dylai Mr Gill ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad, gan ddweud ei fod wedi "torri addewid" i beidio 芒 pharhau i wasanaethu yn y ddwy r么l.

"Chafodd e ddim ei ethol fel Nathan Gill, cafodd ei ethol oddi ar restr ranbarthol UKIP, fel y cefais i," meddai.

"Fe ddylai e nawr wneud y peth urddasol ac ymddiswyddo o'i r么l fel Aelod Cynulliad gan ei fod wedi gadael ein gr诺p."