Neil Hamilton yn gwadu bwlio Nathan Gill

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Neil Hamilton wedi gwadu bwlio Nathan Gill yn ystod ffrae lle y gwnaeth arweinydd UKIP yng Nghymru adael gr诺p y blaid yn y Cynulliad er mwyn eistedd fel aelod Cynulliad annibynnol.

Dechreuodd y ffrae ym mis Mai wedi i Mr Hamilton gael ei ddewis gan y mwyafrif o ACau y blaid i'w harwain yn y Senedd.

Fe wynebodd Mr Gill alwadau i adael ei swydd fel Aelod Seneddol Ewropeaidd er mwyn canolbwyntio ar ei waith yn y Cynulliad ond fe wrthododd wneud hynny.

Fe fydd yn parhau yn y ddwy swydd ond fe fydd yn gweithio fel aelod annibynnol yn y Cynulliad.

Wrth adael y gr诺p, dywedodd Mr Gill fod brwydro mewnol wedi tynnu sylw oddi ar eu gwaith, ond fe fynnodd na fyddai'n gadael y blaid, gan barhau i fod yn ASE ar ran UKIP.

'Gwenwynig'

Ond dyweodd Sam Gould, sydd yn gweithio i Mr Gill, fod y gr诺p yn y Senedd yn "wenwynig".

Dywedodd Mr Gould, cadeirydd cangen UKIP Caerffili, wrth 麻豆官网首页入口 Radio Wales fod Mr Gill wedi ei "fwlio gan y rheiny o fewn hierarchaeth y blaid o'r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol, a gan un neu ddau unigolyn o fewn gr诺p y Cynulliad."

Dywedodd y gallai Mr Gill "barhau i gefnogi ag arwain yr aelodau yma yng Nghymru" ond ni fyddai bellach yn gysylltiedig gyda'r "hyn sydd wedi dod yn frwydr fewnol eithaf gwenwynig o fewn y gr诺p yn y Cynulliad" pan fyddai'n hoffi canolbwyntio ar Brexit.

Er mai Mr Gill oedd wedi arwain yr ymgyrch a welodd aelodau cyntaf UKIP yn cael eu hethol i'r Cynulliad ym mis Mai, galwodd pump ohonyn nhw - yn cynnwys Mr Hamilton - i gadw at ei air a rhoi'r gorau i'w sedd yn Senedd Ewrop os byddai'n cael ei ethol i'r Cynulliad.

Fe wnaeth Mr Hamilton wadu'r awgrym ei fod yn bwlio un o'r gwleidyddion talaf ym mae Caerdydd.

'Bachgen mawr'

"Mae'n fachgen mawr," meddai wrth raglen Good Morning Wales. "Rwyf fi'n 67 oed ac mae Nathan yn chwe throedfedd chwe modfedd. Pa mor realistig ydi o i mi ei fwlio?

"Mae ganddo ni argyfwng difrifol, sydd yn fy marn i o bwys mawr i gyfanrwydd UKIP ac mae ganddo ni rhywun sy'n honni ei fod yn arweinydd ar UKIP yng Nghymru gafodd ei ethol ar yr addewid ei fod am fod yn AC llawn amser ac mae wedi torri ei air.

"Yr unig beth yr ydym yn ei wneud ydi ceisio sicrhau ei fod yn gwireddu ei addewid y gwnaeth i aelodau UKIP, oedd wedi ei ddewis fel y prif ymgeisydd ar gyfer yr etholiad, ag i bobl ei ranbarth yng ngogledd Cymru a'r bobl yng Nghymru yn fwy cyffredinol, sef y byddai'n AC llawn amser petai'n cael ei ethol."

Dywedodd Mr Hamilton nad oedd Mr Gill yn parhau i fod yn arweinydd UKIP yng Nghymru - teitl oedd wedi ei roi iddo gan gyn-arweinydd y blaid Nigel Farage, ond nid yw UKIP wedi egluro'r sefyllfa eto.

Mae penderfyniad Mr Gill i fod yn aelod annibynnol yn y Cynulliad hefyd yn codi cwestiwn am os bydd pleidlais yn cael ei chynnal gan aelodau UKIP yng Nghymru, sydd i fod i benderfynu os y dylai gadw ei ddwy swydd etholedig, neu gael ei ddiarddel o'r blaid os bydd yn gwrthod rhoi'r gorau i un swydd.