Beirniadu HSBC am gau canghennau yn Sir y Fflint

Ffynhonnell y llun, PA

Mae banc yr HSBC wedi cael ei feirniadu ar 么l cyhoeddi y bydd yn cau dwy gangen yn Sir y Fflint yn ddiweddarach eleni.

Bydd y gangen yn Ewlo yn cau ar 11 Tachwedd a'r un yng Nghaergwrle ar 9 Rhagfyr.

Mae AC Alun a Glannau Dyfrdwy, Carl Sargeant wedi ysgrifennu at HSBC, a dywedodd bod y banciau yn chwarae "r么l bwysig yn eu cymunedau, a bod ganddynt [HSBC] gyfrifoldeb tuag atynt".

Mae HSBC wedi rhoi'r bai ar y cynnydd mewn bancio ar y we a dros y ff么n am y gostyngiad mewn pobl sy'n defnyddio canghennau.