麻豆官网首页入口

Llywodraeth Cymru'n sefydlu adran i ddelio 芒 Brexit

  • Cyhoeddwyd
Adran newydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel yn cydweithio 芒'r t卯m newydd sy'n rhan o swyddfa'r prif weinidog

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu adran i ddelio 芒'r trafodaethau am Brydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y T卯m Trawsnewid Ewropeaidd yn cael ei arwain gan was sifil, fydd yn adrodd n么l i Brif Weinidog Cymru.

Ddydd Mawrth bu Carwyn Jones yn amlinellu blaenoriaethau ei lywodraeth yn y blynyddoedd i ddod.

Fe ddywedodd bod rhaid sicrhau nad yw Cymru'n "colli ceiniog" yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo'r Prif Weinidog o fod yn araf yn ei ymateb i ganlyniad pleidlais Brexit.

Adran newydd

Wrth gyhoeddi bod y T卯m Trawsnewid Ewropeaidd wedi cael ei sefydlu, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu t卯m i arwain ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

"Bydd y T卯m Trawsnewid Ewropeaidd, sy'n rhan o swyddfa Prif Weinidog Cymru, yn cefnogi'r Prif Weinidog yn y broses o gydlynu strategaeth Llywodraeth Cymru.

"Bydd Swyddfa Ewropeaidd Llywodraeth Cymru ym Mrwsel yn gweithio gyfochr 芒'r T卯m Trawsnewid Ewropeaidd, tra bydd swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llundain yn cael ei ad-drefnu fel ei bod yn blatfform i drafod ag adrannau Llywodraeth y DU."

Yn gynharach yn y dydd, bu Carwyn Jones yn manylu ar flaenoriaethau deddfwriaeth Llafur Cymru i nodi 100 diwrnod ers iddo gael ei wneud yn Brif Weinidog eto ym mis Mai.

Roedd wedi bwriadu cyhoeddi blaenoriaethau'r llywodraeth ym mis Gorffennaf, ond dywedodd wrth ACau ei fod angen eu hailasesu yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

'Bwrw iddi'n syth'

Dywedodd Mr Jones: "Rydym wedi sicrhau nad yw'r cynnydd ar ein blaenoriaethau wedi'i atal gan y bleidlais Brexit - ond mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn ystyried ein hymrwymiadau a'n cynnydd yng nghyd-destun canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.

"Yn yr oriau wedi i Brydain bleidleisio i adael yr UE, fe nodais ein chwe blaenoriaeth ar gyfer Cymru. Dyna'r blaenoriaethau sy'n dal i lywio ein cynlluniau at y dyfodol - ac yn ganolog i hynny mae gwneud yn si诺r bod mynediad at y Farchnad Sengl yn parhau'n ddi-dor.

"Mae Cymru yn chwarae rhan lawn a gweithredol yn y trafodaethau, ac yr wyf yn ei gwneud yn glir i'r Prif Weinidog fod yn rhaid i'r mynediad hwn barhau.

"Ry'n ni hefyd wedi cymryd nifer o gamau penodol i ddiogelu economi Cymru - bydd ein cynllun i godi hyder byd busnes yn rhoi cymorth i allforwyr o Gymru. Ry'n ni hefyd wedi creu cronfa newydd i helpu i hybu cyflogaeth a denu mewnfuddsoddi.

"Er bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE, wnaethon ni ddim pleidleisio i gael ein gwthio o'r neilltu - a rhaid inni beidio 芒 cholli ceiniog o'r arian ry'n ni'n ei dderbyn ar hyn o bryd."

Dim ail refferendwm

Fe wnaeth Mr Jones hefyd wrthod y syniad o gynnal ail refferendwm, gan ddweud y byddai'n "ddrwg i ddemocratiaeth".

"Dydw i ddim o blaid ail refferendwm," meddai. "Byddai hynny'n ddrwg i ddemocratiaeth. Byddai pobl yn colli mwy o hyder yn y system."

Datgelodd Mr Jones ei fod yn bwriadu teithio i'r Unol Daleithiau yr wythnos nesaf i geisio gwerthu cynnyrch Cymreig i'r wlad.

Bydd yr Ysgrifennydd Economi, Ken Skates yn teithio i Japan ym mis Hydref hefyd.

'Rhy araf'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod cyhoeddiad y Prif Weinidog yn brawf ei fod ar ei h么l hi wrth geisio ymateb i ganlyniad y refferendwm.

"Mae agwedd 'catch-up Carwyn' at lywodraethu, hyd yma, wedi dangos diffyg gweithredu a syniadau - ac mae cyhoeddiad heddiw'n dystiolaeth bellach o hynny.

"Er ein bod yn croesawu unrhyw ymdrechion i ledaenu'r neges am gryfderau busnes Cymru ar y llwyfan byd eang, dyw'r Prif Weinidog ddim wedi mynegi unrhyw weledigaeth ar sut y bydd Cymru'n edrych ar 么l Brexit, felly mae'n ddirgelwch pa neges fydd e'n ei rhannu ar ei daith yn yr Unol Daleithiau.

"Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth gref a hyder yn y modd y mae'n mynd i symud Cymru ymlaen drwy'r cyfnod hwn o gyfleodd newydd."

Cydweithio

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns: "Rwy'n gobeithio y bydd Cymru'n plethu i strategaeth ehangach ar gyfer y DU gyfan. Mae'n bwysig iawn bod y ddwy lywodraeth yn cydweithio ac rwy'n benderfynol o wneud hynny gyda Carwyn Jones.

"Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Fasnach Ryngwladol, Liam Fox, yn awyddus i werthu'r DU i'r byd ac fe allwn wrth gwrs sicrhau fod Cymru'n rhan annatod o hynny."

Yn y cyfamser, mae cyn-gynghorwr i'r llywodraeth, Gerry Holtham wedi dweud y bydd hi'n her i Mr Jones arwain yr ymateb Cymraeg heb weinidog penodol i ddelio 芒 Brexit, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud.