Paul Flynn 'Angen lwfans yn hytrach na threuliau i ASau'

Dylai Aelodau Seneddol dderbyn lwfans yn hytrach na gwneud cais am dreuliau, yn 么l arweinydd y Blaid Lafur yn Nh欧'r Cyffredin.

Dywedodd AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn bod y system yn hirwyntog a bod y system oruchwylio gafodd ei sefydlu yn dilyn y sgandal dreuliau wedi methu adfer hyder y cyhoedd.

Galwodd am system symlach, ble byddai ASau yn derbyn swm penodol o arian.

Dywedodd Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol (IPSA) ei fod yn ymgynghori ar y rheolau.

Mewn blog, fe wnaeth Mr Flynn ddisgrifio IPSA fel "ornament biwrocrataidd" oedd ddim wedi cymryd digon o reolaeth o'r sefyllfa.

Ychwanegodd ei fod wedi methu adfer hyder y cyhoedd yn y system dreuliau, a'i fod yn cymryd sylw ac amser ASau oddi ar waith.

'Sgandalau'n parhau'

Ysgrifennodd: "Mae ein henw wedi gostwng o waelod y domen i fod yn danddaearol. Mae sgandalau ariannol wedi parhau yn y ddau D欧 yn rheolaidd.

"Mae'r cyhoedd yn dal yn credu bod ASau yn defnyddio'r system er eu budd eu hunain."

Awgrymodd Mr Flynn y gallai'r system newydd fod wedi'i selio ar gyfartaledd treuliau ASau, a byddai'n newid yn ddibynnol ar ba mor bell y maen nhw'n byw o San Steffan.

Ychwanegodd y byddai ASau yn derbyn y newid am y byddai'n golygu llai o "fiwrocratiaeth".

Dywedodd llefarydd o IPSA: "Rydyn ni yn ymgynghori ar reolau i ASau ar hyn o bryd ac ry'n ni'n ceisio cael barn Aelodau Seneddol ac aelodau'r cyhoedd ar y mater."