麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Caryl Parry Jones

  • Cyhoeddwyd
caryl parry jones

Caryl Parry Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Owain Tudur Jones yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd mewn twll yng ngardd fy Nain yn Ffynnongroyw. Fan 'na o'n i'n mynd i fyfyrio cyn bod myfyrio yn "thing"!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Gareth Hughes o Dreffynnon... roedd o yn Fform pump pan o'n i yn Fform dau ac oedd ganddo fo sideburns a phopeth! Hefyd Steve Heighway oedd yn chwara' i Lerpwl yn y 70au a Marty o'r New Seekers.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Deud wrth y boi 'ma bo fi'n licio'i wallt o yn hir fel 'na a'i gomplimentio fo ar golli cymaint o bwysau ac yna fo'n deud diolch a'i fod o ar ganol cael sex change.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Gwylio 'Garden Rescue' wsos dwetha.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"O mam bach sbia pwy sy'n Ateb y Galw wsnos yma!"

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Byta gormod, siarad gormod, chwyrnu!

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Anodd dewis. Wrth fy modd wrth y m么r a ma' digon o hynna yng Nghymru ac wrth fy modd ac yn lwcus iawn i fyw ym Mro Morgannwg sydd yn wledig ac yn fendigedig ond yn ddigon agos i Gaerdydd sy'n ddinas ffantastig. Ond cyn belled a bod pobl gr锚t yna, dio'm ots lle faswn i.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pen-blwydd fy merch Miriam eleni... am laff! Bwyd da, ffrindiau gorau, miwsig gwych.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gweithgar, dros bwysau.

Beth yw dy hoff lyfr?

Harpo Speaks - hunangofiant Harpo Marks.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Wel allwn ni FYW heb yr un ohonyn nhw. Ond dwi'n arbennig o hoff o siaced ledr las ac fy uchelgais ydi ei ffitio hi eto ryw ddydd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Y Star Wars dwetha dwi'n meddwl. Dal ddim yn ei dallt hi.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Bydda Jennifer Lawrence yn gr锚t os ydy hi'n rhydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Caryl yn Llywydd y Dydd pan ddaeth Eisteddfod yr Urdd i'w milltir sgw芒r yn Sir y Fflint yn gynharach eleni

Dy hoff albwm?

Albym Nadolig fy arwr, James Taylor.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Pwdin... unrhyw beth hefo cwstard. Mae pwy bynnag ddyfeisiodd gwstard yn genius. CARU cwstard.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Beyonce - no brainer.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Dot Davies

Caryl fydd yn cyflwyno rhaglen gyntaf Radio Cymru Mwy, Dydd Llun 19 Medi o 07:00 tan 10:00.

Bydd 麻豆官网首页入口 Radio Cymru Mwy ar gael trwy Gymru ar wefan 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, ap 麻豆官网首页入口 iPlayer Radio a DAB yn y De Ddwyrain.