'Siom fawr' cau cangen HSBC ar Ynys M么n

Ffynhonnell y llun, Google

Mae banc HSBC wedi cadarnhau y bydden nhw'n cau eu cangen yn Amlwch, Ynys M么n ar 7 Hydref.

Daw'r penderfyniad er gwaethaf gwrthwynebiad yn lleol, gydag un cynghorydd yn ei ddisgrifio fel "ergyd fawr" i'r gymuned.

Yn siarad ar raglen y Post Cyntaf, fe gyfaddefodd y Cynghorydd Richard Jones fodd bynnag bod rhywfaint o fai ar drigolion y dref hefyd am beidio 芒 mynd yno'n ddigon aml.

Dywedodd y banc bod gostyngiad wedi bod yn nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gangen.

Mae HSBC wedi cau nifer o ganghennau yng ngogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys yn Sir y Fflint, Wrecsam, Harlech a Llanberis.

'Siom'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Richard Jones: "Mae 'na siom fawr yn Amlwch.

"Mae'n adeilad arall yn cau yn y dref. Mae'n bechod i'r henoed yn fwy na dim - mae'n anodd iddyn nhw godi eu harian.

"Yn amlwg mae'n siom i Amlwch gyfan, ond mae mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau ar-lein."

'Gostyngiad o 40%'

Dywedodd llefarydd ar ran y banc mai nifer y cwsmeriaid oedd yn defnyddio'r gangen yn Amlwch oedd ar fai am y penderfyniad i gau.

"Rydyn ni wastad yn adolygu rhwydwaith ein canghennau er mwyn sicrhau eu bod yn y lleoliadau cywir ar gyfer ein cwsmeriaid a bod gennym ni rwydwaith priodol ar gyfer y dyfodol," meddai'r llefarydd.

"Dros y pum mlynedd diwethaf rydym ni wedi gweld gostyngiad o 40% yn nifer y bobl sydd yn defnyddio'n canghennau, ac weithiau mae'n rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd i gau canghennau.

"Nid yw'n benderfyniad hawdd i'w wneud ac rydym yn deall y gallai achosi pryder i rai o'n cwsmeriaid."