Cyhoeddi enillwyr gwobrau arbennig BAFTA Cymru

Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi pwy fydd enillwyr y gwobrau arbennig yn eu seremoni flynyddol eleni.

Bydd gwobr Sian Phillips yn cael ei rhoi i Si芒n Grigg, artist coluro sydd wedi ennill BAFTA a chael ei henwebu am Oscar, ac sydd wedi gweithio gydag actorion megis Leonardo di Caprio, Tobey Maguire a Kate Hudson.

Fe fydd Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu yn mynd i'r sgriptiwr a chyfarwyddwr Terry Jones, oedd yn aelod o griw Monty Python.

Cafodd yr enwebiadau ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru 2016 eu cyhoeddi'n gynharach yn mis, gyda chyfres Y Gwyll yn arwain y ffordd unwaith eto 芒 phedwar enwebiad.

Dywedodd Si芒n Grigg ei bod hi wedi'i synnu'n fawr o glywed ei bod hi'n derbyn y wobr, ond ei bod hi'n "fraint enfawr" cael ei hystyried.

Ffynhonnell y llun, Kimberley French

Disgrifiad o'r llun, Si芒n Grigg yn gweithio 芒 Leonardo di Caprio ar ffilm The Revenant

"Mae coluro'n aml yn cael ei anghofio gan ei fod yn declyn sydd yn helpu i ddweud stori ac fe ddylai bylu i mewn i'r ffilm fel arfer, felly mae'n wych ei fod yn cael ei gydnabod yn y fath fodd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Terry Jones, sydd bellach yn dioddef o dementia, ei fod yn teimlo "balchder ac anrhydedd" o gael ei gydnabod yn y fath fodd, a'i fod yn edrych ymlaen at y dathliadau.

Bydd y 25ain gwobrau BATFA Cymru yn cael eu cynnal ar 2 Hydref, gan gydnabod cyfraniad pobl o Gymru ym meysydd cynhyrchu ffilm a theledu, crefft a rolau perfformio.

Mae rhestr lawn o'r enwebiadau i'w gweld ar .