麻豆官网首页入口

Cyhoeddi cyfrol cydymdeimlad Aberfan wedi 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Christine James ac E Wyn James

Ugain mlynedd ers dechrau casglu cyfrol o farddoniaeth er cof am y rhai fu farw yn nhrychineb Aberfan, mae 'Dagrau Tost: Cerddi Aber-fan' wedi ei chyhoeddi.

Mae hynny union 50 mlynedd ers y digwyddiad a hoeliodd sylw'r byd, pan gafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd yn y pentref ar 么l i domen o lo lithro i lawr y mynydd.

P芒r priod yw golygyddion y gyfrol, ac yn 么l E Wyn James a'r cyn Archdderwydd Christine James, mae'r teitl wedi ei seilio ar gerdd Gwenallt sydd yn agor y casgliad ac yn s么n am famau Aberfan "yn wylo dagrau tostaf yr ugeinfed ganrif".

Y bwriad cychwynnol oedd cyhoeddi'r gyfrol yn 1996.

Casgliad amrywiol

Ond ar 么l methu cyrraedd y llinell derfyn honno a "boddi wrth ymyl y lan" yn 2006 mae'r casgliad erbyn hyn dipyn yn fwy meddai E Wyn James, sydd newydd ymddeol o fod yn Athro yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

"10 mlynedd yn 么l roedd 'da ni ryw 40 o gerddi," meddai. "Erbyn hyn, rhwng chwilota ehangach a beth sydd wedi cael ei gynhyrchu yn y cyfamser, mae gyda ni ychydig dros 80.

"Felly dwbl mewn gwirionedd beth oedd wedi bod petaen ni wedi llwyddo i gael y maen i'r wal 10 mlynedd yn 么l."

Mae'r casgliad yn un amrywiol gyda cherddi gan feirdd oedd yn ysgrifennu yn syth ar 么l y drychineb, a rhai eraill gan genhedlaeth o bobl sydd ddim yn cofio'r hyn ddigwyddodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Beth sydd yn drawiadol yw cyn lleied o bobl oedd yn rhan o'r holl beth ar y pryd odd yn fodlon trafod y peth, rhai teuluoedd lle oedd plant wedi eu colli yn gwahardd eu henwi nhw hyd yn oed ar yr aelwyd.

"A dwi yn meddwl am flynyddoedd o'n i nid yn annhebyg mewn un ystyr. Roedd fel petai 'na ryw fath o rewi emosiynol, a hwnnw'n fath o amddiffyniad emosiynol."

Darllenwch fwy am brofiadau E Wyn James, aeth i Aberfan i helpu ar ddiwrnod y drychineb, ar Cymru Fyw ddydd Gwener.

Newid yn natur y canu

Yn 么l E Wyn James mae "natur y gymuned farddol Gymraeg wedi newid" gyda mwy o feirdd gwlad yn y 60au a'r 70au o'i gymharu 芒 heddiw.

"'Roedd gyda chi Gwenallt, T Llew Jones ac enwau amlwg ochr yn ochr 芒 beirdd llai amlwg," meddai.

"Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r beirdd yn rhai y bydde pobl sy'n ymddiddori mewn barddoniaeth yn gyfarwydd 芒'u henwe nhw. Dwi'n meddwl bod yna ryw fath o broffesiynoli ar y byd barddol.

"Lle'r oedd llawer o'r beirdd cynnar 'na yn gweithio yn y chwareli neu'r pyllau glo eu hunain, erbyn hyn mae eu plant a'u hwyrion nhw wedi cael addysg ac mewn swyddi mwy proffesiynol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cerdd T Llew Jones yn cymharu trychineb Aberfan gyda phrofiad plant Hamelin yn cael eu hudo gan y pibydd brith

Mae'r ddau olygydd wedi eu magu yn agos i bentref Aberfan, ac yn y gyfrol maen nhw wedi ceisio rhoi bywgraffiadau o'r beirdd sydd wedi cyfrannu.

Yn 么l E Wyn James, drwy wneud hynny daeth hi'n amlwg faint oedd Aberfan yn rhan o'r "ymwybod Cymraeg".

"Nid rhywle dieithr pell oedd e, ond rhywle roedd llwybr llawer o bobl Cymru a llawer o'r beirdd 'ma wedi tramwyo o ran eu cysylltiadau teuluaidd a'u gwaith ac yn y blaen."

Er bod yna feirniadu a chwestiynu yn rhai o'r cerddi cynnar mae Christine James yn dweud bod hyn yn digwydd fwy fwy yn y blynyddoedd wedyn, a bod yna newid yn natur y cerddi.

"Ni'n dadlau bod mwy o ymateb greddfol, ymateb emosiynol yn y cerddi cynharaf. Ac wedyn tua 1974, mae 'na newid yn digwydd yn agwedd y beirdd," meddai, "a dyna pam 欧n ni wedi rhannu'r casgliad yn ddwy ran.

"Y gerdd gyntaf yn yr ail hanner yw cerdd gan Aled Islwyn ac mae 'na fwy o gwestiynu, mwy o gynilder chwerw o hynny ymlaen."

'Cynnig rhywbeth yn 么l'

Dywedodd y ddau mai'r plant gafodd eu lladd yw canolbwynt y cerddi, gyda'r arysgrif ym mynwent Aberfan er cof am "Richard oedd yn caru golau, rhyddid ac anifeiliaid" wedi cydio yn sawl un o'r beirdd.

Gobaith y golygyddion yw "atgoffa pobl" o'r hyn ddigwyddodd yn 1966, a dangos bod yna gasgliad sylweddol o waith o bob rhan o Gymru wedi ei ysgrifennu yn ymateb i'r digwyddiad.

Mae ei chyhoeddi hefyd yn weithred o gydymdeimlad meddai Christine James: "Mewn un ystyr mae'n ffordd o fynegi cydymdeimlad 芒'r gymuned 'ma gollodd gyment mewn cyn lleied o amser.

"Mae'n weithred o gynnig rhywbeth yn 么l bron 芒 bod."