Ateb y Galw: Carolyn Hitt

Carolyn Hitt, y colofnydd a'r cynhyrchydd teledu, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Gareth Charles yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Gwneud y trawsnewid mawr o'r cot i'r "gwely mawr".

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Kerr Avon yn Blake's 7 ac yna Andrew McCarthy yn ffilmiau Brat Pack.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na ormod! Mewn derbyniad VIP ffansi mewn marquee yng Ng诺yl y Gelli unwaith nes i ddisgyn yn syth ar fy nghefn a chael cymeradwyaeth achos nes i lwyddo i gadw'r gwydr champagne mewn un darn. O'n i'n gorfedd yno fel y Statue of Liberty gyda fy mraich yn yr awyr!

Nes i hefyd droi lan i Wobrau Dylan Thomas gyda sponge roller yn dal yn sownd yng nghefn fy mhen. Ac fe nes i ddweud stori juicy am seleb Cymreig i ferch diarth unwaith heb wybod fod y person hwnnw yn frawd iddi.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn y filfeddygfa wythnos diwetha' pan ddywedodd y milfeddyg wrtha i ei bod hi'n "ddechrau'r diwedd" i fy nghath 19 oed, Scully. Ond yn ffodus mae Scully wedi gwella ac mae hi wrthi'n gweithio ei hun trwy ei naw bywyd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi byth yn mynd i'r gwely'n ddigon buan - yn bennaf gan fy mod i'n aros i fyny tan 02:00 yn darllen Twitter. Dydw i ddim yn tacluso fy nesg ddigon chwaith. Cafodd ei ddynodi fel hazard swyddogol yn ystod archwiliad iechyd a diogelwch unwaith!

P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Copa mynydd y Bwlch sy'n edrych dros y Rhondda, lle ges i fy magu. Mae'r olygfa o'r cwm yn hyfryd. Mae'r mynyddoedd yn newid lliw wrth i'r golau bylu. Roeddwn i wastad yn mynd ag ymwelwyr yno pan ro'n i'n blentyn. Mae'n le teimladwy iawn i mi erbyn hyn gan ei fod y lle olaf i mi fynd a Mam ychydig wythnosau cyn iddi farw.

Disgrifiad o'r llun, Copa Cwm Rhondda

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mhenblwydd yn 40. Wnes i drefnu parti mawr i fy nheulu a ffrindiau. Fe ddywedodd fy nhad ambell i air hyfryd ac fe wnaethom ni yfed a dawnsio tan yn hwyr.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol. Cyfeillgar. Sensitif.

Beth yw dy hoff lyfr?

Mae'n gwestiwn anodd iawn achos nes i astudio Llenyddiaeth Saesneg ar gyfer fy ngradd. Ond o'r llyfrau dwi wedi eu darllen am bleser byddai'n rhaid imi ddweud The Secret History gan Donna Tartt - ysgrifennu a phlot gwych.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy slippers! Mae bod yn gysurus tu 么l i ddrysau cae毛dig yn hanfodol. Dwi hyd yn oed yn eu cymryd ar wyliau.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Bridget Jones's Baby. Roedd e'n fwy doniol nag oeddwn i'n meddwl y bydde fe.

Disgrifiad o'r llun, 'Bridget Jones's Baby'...mwy doniol na beth oedd Carolyn yn ei ddisgwyl!

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Cate Blanchett. Mae hi'n amlwg yn fwy glamorous ond mae pawb yn fwy glamorous mewn fersiwn ffilm o'u bywyd.

Dy hoff albwm?

Blue - Joni Mitchell.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Dwi'n caru pwdin. Pei Key Lime, pei banoffee, hufen i芒 coconut neu unrhyw beth sy'n dod gyda chwstard.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Dwi wedi ysgrifennu am rygbi rhyngwladol am bron i 20 mlynedd ond alla i ddim dychmygu sut deimlad fydde hi i chwarae dros Gymru... y pwysau, y boen, yr anrhydedd. Felly hoffen i fod yn Sam Warburton, yn gapten dros fy ngwlad mewn g锚m sy'n penderfynu'r Gamp Lawn yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm - ac ennill yn amlwg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Sam Warburton yn herio amddiffyn Lloegr yn Twickenham, Mawrth 2016

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Tanni Grey-Thompson