麻豆官网首页入口

Gwobrwyo'r goreuon yn BAFTA Cymru

  • Cyhoeddwyd
ActorionFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Michael Palin yn cyrraedd gyda Terry Jones

Fe gafodd yr actor Terry Jones - un o s锚r Monty Python - wobr arbennig am ei gyfraniad i'r byd adloniant yn seremoni BAFTA Cymru nos Sul.

Derbyniodd y wobr am Gyfraniad i Ffilm a Theledu gan Michael Palin, a ddywedodd ei fod yn "gyfaill arbennig".

Ymysg enillwyr amlwg eraill y noson oedd y Gwyll - a enillodd y wobr am y ddrama deledu orau.

Fe gafodd un o s锚r y gyfres honno, Mali Harries, y wobr am yr actores orau am ei pherfformiad fel y detectif arolygydd Mared Rhys.

Cafodd y ffilm Yr Ymadawiad noson lwyddianus yn ogystal, gyda Mark Lewis Jones yn fuddugol yng nghategori'r actor gorau.

Disgrifiad,

Mali Harries: Actores orau

Mewn golygfa emosiynol, fe gyflwynodd Michael Palin y wobr arbennig i Terry Jones, sy'n wreiddiol o Fae Colwyn.

Ei fab, Bill, dderbyniodd y wobr ar ei ran, am fod yr actor a'r awdur yn dioddef o ddementia sydd yn effeithio ar ei allu i siarad.

Fe ddywedodd Bill Jones fod hyn yn "anrhydedd arbennig" mewn cyfnod anodd.

Ffynhonnell y llun, KIMBERLEY FRENCH
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Si芒n Grigg yn gweithio 芒 Leonardo di Caprio ar ffilm The Revenant

Yn gynharach yn y noson fe ymddangosodd yr actor o Hollywood, Leonardo DiCaprio, mewn neges fideo arbennig i roi teyrnged i Sian Grigg.

mai'r artist colur oedd yn derbyn Gwobr Si芒n Phillips eleni.

Disgrifiad,

Mark Lewis Jones: Actor Gorau

Y Gwyll enillodd wobr gynta'r noson am y ddrama deledu orau.

Wedi'r dechrau da, roedd 'na fwy o lwyddiant i'r ddrama sydd wedi ei lleoli yng Ngheredigion, gyda Mali Harries yn cipio'r wobr am yr actores orau.

Mark Lewis Jones gafodd y wobr am yr actor gorau am Yr Ymadawiad, ffilm sy'n adrodd stori dau gariad sy'n cael eu hachub gan ddyn wedi damwain car mewn ardal fynyddig yng Nghymru.

Roedd 'na ddwy wobr arall i'r ffilm hefyd, gan gynnwys i'r awdur Ed Talfan.

Ffynhonnell y llun, Bafta Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kizzi Crawford yn perfformio

Roedd 'na dair gwobr i gyd i Mr Calzaghe, sef ffilm ddogfen am yrfa y paffiwr Joe Calzaghe.

Llwyddodd rhaglen Argyfwng y Mudwyr gipio gwobr i Newyddion 9, cynhyrchiad 麻豆官网首页入口 Cymru i S4C, oedd yn dilyn yr argyfwng oedd yn datblygu yn Ewrop, gyda'r wobr yng nghategori Materion Cyfoes hefyd yn mynd i d卯m Week In Week Out am y rhaglen Life After April.

Fe aeth y wobr am y darllediad allanol byw gorau i C么r Cymru ar S4C i raglen Y Rownd Derfynol.

Music for Misfits: The Story of Indie, sy'n olrhain hanes cerddoriaeth indie ym Mhrydain, wnaeth ennill yng nghategori y gyfres ffeithiol.

Llwyddodd Dr Who hefyd i gipio gwobr yn y categori Effeithiau Gweledol Arbennig, gyda dwy wobr hefyd i raglen ddogfen All in The Mind gyda Tim Rhys Evans.

Bwriad y seremoni yw gwobrwyo darlledu a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu yng Nghymru mewn 21 o gategor茂au.

Y DJ a'r cyflwynydd Huw Stephens oedd yn cyflwyno'r seremoni gyda'r gantores Kizzy Crawford yn perfformio yn ystod y noson.